Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Achos Enghreifftiol

Achos Enghreifftiol

Mae’r achos enghreifftiol hwn yn dangos yr hyn mae Sherman Cymru wedi’i gyflawni hyd yma gydag un o’n partneriaid busnes, Legal & General. Mae’n dangos cynhyrchu effeithiol, creadigrwydd arbennig ac enillion trawiadol yn nhermau busnes.  Enillodd y bartneriaeth Wobr Partneriaeth Newydd Celf & Busnes am y prosiect hwn - arwydd o greadigrwydd a dyfeisgarwch y prosiect.

Legal & General & Sherman Cymru

“Mae hwn wedi bod yn gyfle unigryw i staff Legal & General ledled Caerdydd gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol eu hunain wrth ddysgu am waith Sgript Cymru ar yr un pryd.” - Lynne Sheehy, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu.

"’Rwy’n sicr i’r cwrs fy ysbrydoli i, ac ‘roedd yn hawdd gweld fod pawb o’r un farn gan fod pawb wedi gweithio a chyfrannu’n effeithiol dros ben. " Un o weithwyr Legal & General

Galluogodd nawdd cychwynnol Legal & General i Sherman Cymru fedru comisiynu awdur ifanc newydd am y flwyddyn gyntaf.  Bu i Bartneriaeth newydd Celf & Busnes gyfrannu’r un swm a nawdd Legal & General er mwyn ehangu’r bartneriaeth hon, gan alluogi i Sherman Cymru gynnig gweithdai ysgrifennu creadigol, a gynhaliwyd y tu allan i oriau gwaith, ar gyfer ugain o staff busnes swyddfa legal & General, Caerdydd.

Nôd Sherman Cymru oedd cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol fyddai’n rhoi cyfle i gyfranogwyr roi cynnig ar rywbeth newydd a gwahanol, ac i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu.  ‘Roeddynt hefyd yn awyddus i gryfhau’r berthynas newydd â Legal & General.

’Roedd y galw am y gweithdai’n uchel iawn, gyda nifer o weithwyr yn datgan diddordeb pe byddai’r prosiect yn cael ei gynnal eto.  ‘Roedd gan yr aelodau’r staff a fynychodd y gweithdai brofiadau a chefndiroedd amrywiol mewn ysgrifennu, ond ‘roedd yr adborth o’r gweithdai, a’r gwaith a gyflawnwyd, yn hynod o gryf ac yn bositif, oedd yn dangos fod y gweithdai wedi eu hanelu’n dda ar gyfer y grwpiau. Teimlai’r gweithwyr fod y gweithdai’n werthfawr iawn, a’u cwyn unfrydol oedd bod y cwrs yn rhy fyr.

Gan fod nawdd Legal & General i Sherman Cymru yn fenter newydd ‘roedd y gweithdai ysgrifennu hefyd yn fuddiol drwy roi cyfle i’r cyfranogwyr ddarganfod mwy am waith y cwmni.  Mae Sherman Cymru wrth ei fodd fod cynifer o’r cyfranogwyr yn datblygu eu sgiliau drwy ysgrifennu’n amlach, neu mewn rhai achosion, yn ymuno â chyrsiau ysgrifennu rhan amser er mwyn meithrin eu talent.

“Nid oeddwn wedi clywed am Sherman Cymru o’r blaen, ond mae gen i ddiddordeb pendant yn yr hyn maent yn ei wneud.” 
Un o weithwyr Legal & General 

Bron yn union wedi i’r gweithdai ddod i ben dechreuwyd trafod parhau â’r prosiect, sy’n adlewyrchiad ardderchog o lwyddiant y cynllun.  Mae hwn wedi arwain at effeithiau hynod fuddiol i’r ddau bartner gan fod y prosiect cyntaf hwn wedi cryfhau’r bartneriaeth ac wedi gosod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol. 

“Mae arnom angen mwy o weithgareddau/cyfleoedd wedi oriau gwaith, yn arbennig er mwyn cael help i ymlacio a lleddfu rhywfaint ar y pwysau.  ‘Roedd yn braf cael defnyddio fy ymennydd mewn modd mwy creadigol, yn hytrach nag ateb cwestiynau’n fecanyddol mewn canolfan alwadau.”
Un o weithwyr Legal & General

Ers i’r prosiect cychwynnol hwn ddod i ben mae ychwaneg o weithdai ysgrifennu mwy trwyadl wedi eu cynnal ar gyfer aelodau staff Legal & General.  Mae hyn wedi galluogi i rai o’r gweithwyr ddechrau eu cylch ysgrifennu eu hunain, ac i yrru dramâu i adran lenyddol Sherman Cymru fel dramodwyr cymwys.  Mae Legal & General a Sherman Cymru wrth eu bodd gyda chanlyniadau’r fenter hon ac yn edrych ymlaen at brosiectau eraill yn y dyfodol.
Am wybodaeth bellach am ddatblygiad gwaith Sherman Cymru ac i ddarganfod sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch ag Emma Goad, Pennaeth Datblygu.

Logo