Acting Out Caerdydd
Mae ‘Acting Out’ Caerdydd yn brosiect Celfyddydau Perfformio sydd wedi’i gwobrwyo, a’n cael ei rhedeg yn y Sherman gyda chydweithrediad Gwasanaethau Ysgolion Caerdydd, fel rhan o’r rhaglen Cyfleoedd Estynedig.

"To me Acting Out
is somewhere
I can be myself
and no-one judges me."
- aelod Acting Out Caerdydd
Os ydych rhwng 14 a 16 mlwydd oed ac yn mynd i’r ysgol, neu os ydych rhwng 14 – 20 mlwydd oed ac yn ffoadur, yn geisydd lloches, neu os nad ydych yn derbyn addysg, ddim yn cael eich cyflogi, nag yn cael eich hyfforddi (NEET) yna ‘rydych yn gymwys i gymryd rhan yn Acting Out Caerdydd. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai drama wythnosol am un neu ddwy flynedd er mwyn ennill Tystysgrif BTEC Lefel 1 (sy’n gyfystyr â 2 TGAU).
Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sgiliau newydd gan gynnwys, actio, gwaith symud, techneg lleisiol, ymladd llwyfan, sgiliau syrcas, a "body percussion". Cewch gyfle i ddefnyddio’r sgiliau hyn wrth weithio ar gynyrchiadau yn ystod y flwyddyn a thrwy greu cyd-gynyrchiadau gydag ystod eang o grwpiau ieuenctid a chymunedol. Yn ogystal â pherfformio byddwch yn dysgu am, a chyfrannu tuag at, meysydd technegol a chreadigol eraill fel gwisgoedd, cynllunio goleuadau, cynllunio/adeiladu set, cynllunio/gweithredu sain a chyfarwyddo.
Nid oes raid i chi feddu ar unrhyw brofiad actio na pherfformio, ond mae’n rhaid i chi ymrwymo i ddod am un diwrnod bob wythnos (yn ystod tymor ysgol) gydol y cwrs.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Jason Camilleri

