Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Q & A Gyda Alan Harris

Alan Harris - Cardboard Dad

Beth ysbrydodd ti i ysgrifennu ‘Cardboard Dad?’

Mi ddarllenais erthygl yn y papur newydd ynglyn a ‘Flat Dadies’ yn yr Observer un dydd Sul. Roedd yn erthygl digon ysgafn am ymgyrch oedd wedi cael ei gyflwyno yn Maine, UDA, i bersonel y Marines. Roedd y fyddin yn anfon cymeriad cardfwrdd o unrhyw bersonel oedd yn gweinyddu i aelodau o’u teulu fel na fydda nhw’n anghofio eu gwedd. Fe wnes i gadw’r erthygl ac anghofio amdano am y tro.
Am wn i fel awdur mae pethau sydd yn eich diddori yn cuddio yn yr isymwybod, yn barod i ailymddangos pan mae nhw’n barod i gymeryd siap. Rydw i o’r farn bod syniadau yn denu syniadau eraill ac yn glynu at eu gilydd a...wel, mae ganddo chi syniad am ddrama, rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Roedd gen i ddiddordeb yn y bobl oedd yn cael eu gadael ar ôl – nid y rhai sydd yn mynd i ffwrdd i ymladd ond y rhai oedd yn aros adref ac mi ddatblygodd y syniad o’r fan honno.

Sut datblygodd steil y ddrama?

Does ond hyn a hyn y gall y ddrama ddatblygu tra dal yn y meddwl. Fe ddatblygodd ganwaith pan daeth y cyfarwyddwr ac, efallai yn fwy pwysig yr actorion ynghlwm a’r prosiect. Yn y ddrama mae Donna yn mynd ar daith anhygoel (heb symud yn bell iawn yn gorfforol) a mae cymeriad cardfwrdd o soldiwr ar y llwyfan. Roedd sut oedd ‘Cardboard Dad’ yn symud, sut oedd o’n ffitio i mewn i fyd Donna ac yna o fewn byd y ddrama ar y llwyfan, i gyd yn sialens. I ddechrau, roedd yn cael ei ddefnyddio fel pyped, cael ei fanipiwleiddio ond roedd hynny fel petai’n cyfyngu ni ac yr eiliad rhedodd Simon Nehan a defnyddio ei gorff ei hun yn hytrach na ‘Cardboard Dad’ roedd yn agoriad llygaid - fel petai golau wedi ei gynnau. Moment o ryddid.

Trafodwch siwrne ‘Cardboard Dad’ o’r drafft cyntaf i’r cynhyrchiad.

Mae wedi bod yn broses hir. Cafodd y ddrama ei chomisiynnu (gan Simon Harris yn wreiddiol yn Sgript Cymru cyn i’r cwmni uno a Theatr y Sherman) dros ddwy flynedd a hanner yn nol. Fe ddigwyddodd yr uno o gwmpas amser y drafft cyntaf felly, i fi fel awdur oedd eisiau rhoi rhywbeth ymlaen, roedd yn fater o aros. Mi ysgrifennais sawl drafft arall a daeth penderfyniad i gynhyrchu. Ond fe gyflymodd pethau pan apwyntwyd cyfarwyddwr (Juliet Knight). Roeddwn i wedi gweld y cynhyrchiad White Boy gan Tanika Gupta yn Theatr y Soho yr oedd Juliet wedi ei gyfarwyddo ac roeddwn i’n gwybod mai hi oedd y person iawn ar gyfer y swydd.
Roedd y proses o gastio yn un eithaf hir. Fe welsom Simon yn eithaf cynnar yn y broses a gwybod y byddai’n berffaith ar gyfer y rhan (fe gynigio ni’r rhan iddo yr wythnos honno ac fe dderbyniodd). Fe welsom ni sawl Donna a photensial ond cynnig y rhan i Shelley Rees. Fe wnes i fynychu yr wythnos gyntaf o ymarferiadau ac yna galw draw o dro i dro – bob tro roedd Cardboard Dad gam ymhellach ar ei thaith.

Sut y des di’n awdur?

Os ydy’r awydd ganddo chi mae pob dim yn arwain at rhywbeth arall, yn tydy? Roeddwn i’n gwybod erioed fy mod i eisiau ysgrifennu ond doeddwn i ddim yn siwr lle i droi. Fe es i i’r Brifysgol er mwyn dianc (astudiais Hanes gan mai dyna’r pwnc hawsa y gallwn i ei wneud) ac ar ôl hynny gwneud dim, dim ond swyddi rhan amser. Roeddwn i’n gweithio hefo dyn o’r enw Roy Ellis wnaeth awgrymu y dylwn i fod yn newyddiadurwr. Felly fe wnes i roi tro arni, mwynhau a dod yn ohebydd. Yna dyma faglu i mewn i ochr cynhyrchu pethau a darganfod os ydych chi eisiau dod o hyd i ryw wirionedd nid newyddiaduriaeth ydy’r ffordd i fynd o’i chwmpas hi. Mae gen i ffrind sydd yn awdur ac roedd ganddo gomisiwn ar y pryd hefo Sgript Cymru. Roeddem yn trafod syniadau a storiau o hyd ac fe awgrymodd y dylwn i ysgrifennu drama a’i anfon i Sgript Cymru. A dyna wnes i. Fe dderbyniais lythyr, ychydig cleniach na llythyr diolch ond dim diolch safonol ac felly anfon ail ddrama ac yn y man cael cyfle i gwrdd a’r cwmni (roeddwn i mor nerfus). Yna cefais fy ngwahodd ar gwrs preswyl ac yna cael fy nghomisiynu. Mae hwn yn fersiwn byr o ddigwyddiadau ond mae’n rhoi blas i chi.

Pa gyngor sydd gen ti ar gyfer unrhyw un sydd a diddordeb mewn ysgrifennu drama neu mewn ysgrifennu newydd?

Ysgrifenna am rhywbeth sydd o ddiddordeb i ti.
Paid a ceisio dyfalu’r farchnad.
Mynycha’r theatr cyn gymaint a phosib.
Darllena cymaint o ddramau a phosib.
Rhaid i ti adnabod dy gymeriadau yn drylwyr.
Ysgrifenna ddrama lle mae pethau’n digwydd. Dim ceir yn rasio ar ôl eu gilydd a gynnau yn tanio ond pethau sydd yn newid yn gyson.
Dal ati.

Logo