Amdanom Ni

Ers 2007, pan ffurfiwyd Sherman Cymru wedi i Theatr y Sherman Cyfyngedig a Sgript Cymru Cyfyngedig uno, ‘rydym wedi derbyn cryn glod am y gwaith ‘rydym wedi ei gynhyrchu ac wedi ennill gwobrau yn gyson yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ar hyn o bryd ‘rydym yn gweithio oddi-ar-leoliad tra bod adeilad y Sherman yn cael ei ailddatblygu. ‘Rydym yn rhagweld y byddwn yn dychwelyd i’r adeilad ddiwedd fis Tachwedd 2011, ac yn ail-agor yn fuan yn 2012.
Ers i ni fod oddi-ar-leoliad ‘rydym wedi profi un o’n blynyddoedd artistig prysuraf, gan gynhyrchu gwaith newydd trawiadol, a chyflwyno cynhyrchiad tra llwyddiannus o Measure for Measure mewn lleoliadau yng Nghaerdydd a De Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn ‘rydym wedi cyd-weithio â Dan y Gwely, National Theatre Wales, Shared Experience a Theatr Iolo.
![]()





