Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Mae’n hawdd ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Gorsaf Cathays 5 munud i ffwrdd ar droed ac mae bws Rhif 35 yn stopio tu allan i’r adeilad.

Cynlluniwch eich ymweliad

 

Ar y Bws

Mae bws Rhif 35 (llwybr Gabalfa i Ganol y Ddinas) yn stopio tu allan i Sherman Cymru. Mae yna Forderi Bws wrth y safle bws tu allan i Sherman Cymru ar Ffordd Senghennydd i roi mynediad gwastad o’r stryd arno i’r bysiau.

Mae bysiau’n cysylltu Cathays at amrywiaeth o leoliadau yng Nghanol Dinas Caerdydd a thu hwnt. Cysylltwch â Traveline Cymru am fanylon ar 0871 200 22 33, neu fe allwch ddefnyddio’u teclyn cynllunio siwrnai ar-lein yn www.traveline-cymru.info

Trenau

Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf Cathays, sy’n 5 munud ar droed o Sherman Cymru ac yn cysylltu at Orsaf Heol y Frenhines yng Nghaerdydd a gorsaf Ganolog Caerdydd.

Am amserau a chostau manwl ar gyfer y trenau, cysylltwch ag ymholiadau National Rail yn 08457 48 49 50 neu Trainline.