Ar Droed A Ar Eich Beic
Ar Droed
Mae Sherman Cymru yn hygyrch iawn ar droed neu ar feic, oherwydd dim ond 5 munud y mae’n ei gymryd ar droed o’r New Theatre, a 10 munud o ardal siopa Heol y Frenhines.
Ar Eich Beic
Mae yna nifer o gylchoedd beicio pinc ar hyd Ffordd Senghennydd er mwyn i chi barcio’ch beic yn ddiogel.
Fe fydd mapiau seiclo ar-lein Cyngor Caerdydd yn gallu eich helpu i gynllunio’ch siwrnai, neu fe allwch gael copi o Fap Beicio Caerdydd gan cycling@cardiff.gov.uk. Mae copïau o’r mapiau ar gael o’n Swyddfa Docynnau.
Dolen map Sustrans – mwy o wybodaeth ynghylch llwybrau beicio ar www.sustrans.org
Cymhwysiad (‘app’) rhad ac am ddim ar gyfer yr iphone, ar gyfer Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol cyfan – enw’r cymhwysiad yw ‘The complete National Cycle Network’
Cynlluniwch eich siwrnai ar y beic gyda’r system gynllunio siwrnai feicio ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.





