Archebu-ar-lein
Archebwch eich tocynnau ar unrhyw adeg gyda’n system docynnau ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd. Cliciwch ar ‘archebwch ar-lein’ ar dudalennau’r sioeau.
Nid ydym yn codi tâl am archebu tocynnau, ond os ydych chi am i ni bostio’ch tocynnau atoch mae yna dâl o 75c, neu fe allwch gasglu’ch tocynnau o’n Swyddfa Docynnau pan ddewch chi i’r perfformiad.
Sut i archebu’ch tocynnau ar-lein:
- Cliciwch ar Archebwch Ar-lein
- Dewiswch y dyddiad a’r amser ar gyfer eich perfformiad
- Dewiswch bris
- Dewiswch eich seddau neu gadewch i ni ddewis eich seddau drosoch chi
- Dewiswch y math o docyn a/neu gonsesiwn Porwch drwy fwy o berfformiadau os ydych chi’n dymuno prynu mwy o docynnau neu dewiswch gwblhau’r archeb
- Edrychwch dros eich archeb a theipiwch unrhyw godau taleb, yna nodwch a ydych chi am gasglu eich archeb neu a ydych chi am i ni ei phostio
- Rhowch eich manylion personol a’ch manylion talu
- Cwblhewch yr archeb.
Fe fyddwch yn cael e-bost i gadarnhau bod eich archeb yn llwyddiannus
Os digwydd i chi gael unrhyw drafferthion wrth archebu ar-lein, mae croeso i chi e-bostio tocynnau@shermancymru.co.uk neu ffonio 029 2064 6900.





