ArtWorks Cymru
Mae ArtWorks: Developing Practice in Participatory Settings yn fenter newydd sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus i artistiaid sy’n gweithio yn y maes cyfranogol.
Mae ArtWorks, sy’n Fenter Arbennig ymddiriedolaeth Paul Hamlyn Foundation, yn gynllun datblygu’r gweithlu sy’n ceisio diwallu anghenion artistiaid ar wahanol gamau yn ystod eu gyrfa – o’r artist ifanc, uchelgeisiol sy’n dechrau hyfforddi, i ymarferwyr profiadol sy’n dymuno gwella’u cynnyrch. Mae’n ceisio adeiladu ar arfer da a chyfoethogi’r isadeiledd datblygu sy’n bodoli eisoes.
Mae ArtWorks Wales eisiau creu sector celfyddydau cyfranogol cynaliadwy, sy’n gweddnewid, ac sy’n tyfu ac yn meithrin artistiaid sy’n gweithio gyda phobl Cymru ac ar eu rhan, yn diffinio arfer gorau ac yn creu cyffro a deialog o amgylch gwaith, gan ddod â dyfnder ac ystyr i ryngweithio bob tro.
Mae Partneriaeth ArtWorks Wales yn dod â’r sefydliadau canlynol ynghyd:
- Opera Cenedlaethol Cymru wno.org.uk/getinvolved
- Dawns Gymuned Cymru
- Cerdd Gymunedol Cymru
- Celf ar y Blaen
- Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
- Sherman Cymru
- Streetwise Opera
- Yr Athro Hamish Fyfe
Mae’r Bartneriaeth yn rhannu’r gwerthoedd canlynol:
- Rydym yn credu fod pawb yn greadigol.
- Mae’r gelf gyfranogol orau yn gweddnewid - i artistiaid, unigolion a chymunedau.
- Mae arfer cyfranogol yn golygu rhyngweithio creadigol lle mae’r artist yn darparu’r fframwaith a’r strwythur, ac mae’r cyfranogwr yn dod â’i brofiad a’i unigolrwydd.
- Mae’r artist yn alluogwr, yn grëwr, yn gydweithredwr, yn ddehonglydd, yn gyd ddysgwr…
- Gall sefydliadau dyfu a dysgu, harneisio gwerthoedd diwylliannol a’u trosglwyddo i genhedlaeth newydd o artistiaid.
Gosodwyd y nodau canlynol i ArtWorks Wales:
- Creu hyfforddiant holistig a fframwaith datblygiad proffesiynol parhaus sy’n cyfeirio at anghenion artistiaid ar bob cam yn eu datblygiad
- Datblygu a chreu arfer da ar draws y sector
- Archwilio’r potensial am safon ar draws y sector a gydnabyddir gan sefydliadau sy’n cyflogi artistiaid
- Rhannu arfer a phrofiad ar draws y ffurfiau celf, sefydliadau ac ieithoedd, a chreu lle i artistiaid drafod a gwerthuso eu gwaith
- Creu trafodaeth ehangach ar y celfyddydau cyfranogol ledled Cymru
- Codi dyheadau a disgwyliadau gwaith cyfranogol yn y gymuned, a statws celf gyfranogol mewn cymdeithas
Cynhelir ArtWorks Wales mewn tri cham:
- Bydd Cam Un yn cynnwys proses archwilio ac ymgynghori
- Bydd Cam Dau yn creu Fframwaith Dysgu o amgylch pum prosiect a gynhelir gan sefydliadau Pathfinder
- Bydd Cam Tri yn cynnwys symposiwm i ddosbarthu a thrafod canfyddiadau’r Pathfinder, yn ogystal ag argymhellion wrth fynd ymlaen i greu rhwydwaith hyfforddi mwy cysylltiedig.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.artworkswales.org Neu dilynwch y prosiect ar Facebook yn a Twitter @ArtworksWales
Mae ‘ArtWorks: Developing Practice in Participatory Settings’ yn Fenter Arbennig Paul Hamlyn Foundation gyda chefnogaeth a nawdd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Creativity Culture & Education (a gefnogir gan Arts Council England) a rhaglen y Cultural Leadership Programme.





