Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Q & A Awduron

Louise Osborn - Awdur & Chyfarwyddwr, Plum (...and me, Will!)

O ble daeth yr ysbrydoliaeth i ysgrifennu Plum (...and me, Will!)?

Fy nechreubwynt ydy’r gynulleidfa - nhw ydy fy ysbrydoliaeth. Beth ydy byd emosiynol plentyn bychan? Beth sy’n eu pryderu? Beth sydd yn gwneud iddyn nhw chwerthin? Beth sydd yn eu cynhyrfu? Beth sydd yn eu dychryn a’u gwefreiddio? Sut fath o straeon maen nhw’n eu hoffi a'u hangen?

Fe ddefnyddiais fy mhrofiadau fy hun o fod yn blentyn ac o fod yn fam i dri o blant. Pan yn ‘fabanod’ y peth mwyaf sydd raid i ni ddygymod ac o ydy’r ffaith nad ni ydy ffocws y bydysawd! Mae’r darganfyddiad poenus hwn gan amlaf ar ei waethaf neu gryfaf pan mae brawd neu chwaer newydd yn cyrraedd neu wrth gael ein gorfodi i ddechrau’r ysgol am y tro cyntaf. Mae hefyd yn gyfnod o wahanu oddi wrth y cartref/fam - a chamu allan i mewn i’r byd. Mae hyn i gyd yn arwain at nifer o bryderon ac ofnau. Mae nifer o blant yn wynebu teimladau o gael eu gadael a rhieni absennol neu rieni’n rhyfela. Mae’n gallu bod yn gyfnod o emosiynau dwys - cenfigen, ansicrwydd, hapusrwydd ac ofn. Dyma ddechreuad ‘fframio’ ein hunain, ein hunanymwybyddiaeth - ac wynebu rheolau cymhleth cymdeithasu.

Am wn i, hefo PLUM, yn ogystal ag adrodd stori cyffroes a hwyliog, roeddwn i eisiau cydnabod rhai o’r anawsterau hefo rhai o’r teimladau hyn - a chyfeirio at rai o bynciau tabŵ plentyndod. Sut ydym yn rheoli’r emosiynau cymhleth ond cryf? Sut ydym yn goresgyn ein hofnau? Roeddwn i eisiau cydnabod, hefo’r gynulleidfa, fod yr ofnau yma yn gyffredin. Rydym i gyd yn teimlo’n wirion, unig, anhaclus, hyll, anobeithiol, cenfigennus, gwyllt ac ofnus ar brydiau. Mae hi’n anodd iawn bod yn fachgen neu ferch fawr a dewr...a hyd yn oed fel oedolion rydym yn cael trafferth ymddwyn fel oedolion!

Cefais hefyd fy ysbrydoli gan gyfoeth o ryddiaith i blant sydd i’w gael. Gyda PLUM cefais fy ysbrydoli yn arbennig gan ddarluniau Quentin Crisp a Shirley Hughes. Mae yna gyffyrddiadau o nifer o lyfrau plant - ‘Bear Hunt,’ ‘Where the Wild things Are’ a ‘The Tiger Who Came to Tea’ i enwi ond un neu ddau!

Beth ydy’r her ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa o dan 7?

Roeddem eisiau creu stori ‘newydd’ oedd ddim yn seiliedig ar unrhyw stori oedd eisoes yn bodoli ond yn ymwybodol fod rhaid cael rhywbeth gafaelgar, pwerus a oedd yn ddeniadol i’r oedran yn syth. Ac oherwydd y slot amser roedd rhaid cael blas tymhorol. Hefyd, gan mai merch oedd prif gymeriad cynhyrchiad llynedd, Cinders,’ roeddwn i’n awyddus i greu darn o waith a fyddai’n atyniadol at fechgyn - ond hefyd yn cynnwys tylwythen deg pwysig a blin!

Y sialens fwyaf oedd dod o hyd i’r balans cywir yn y darn yn enwedig gan fod yr ystod mewn datblygiad yn eang. Mae’r gwahaniaeth rhwng plentyn tair a saith oed yn enfawr! Felly mae rhaid i’r naratif fod yn ddigon i ddychryn ond heb fod yn rhy frawychus i oedran sydd dal a thueddiad i wlychu eu dillad! Mae rhaid bod yn emosiynol heb fod yn drawmatig...rhaid apelio at eu synnwyr o ddigrifwch - sydd yn anochel yn cynnwys hiwmor toiled a gweithreddau corfforol ac wrth gwrs hiwmor slapstic...! Ond roeddwn i hefyd eisiau’r gwaith fod yn gofiadwy ac yn emosiynol alluog...fel bod y gwirionedd emosiynol a’r archwiliad o’r ‘bywyd mewnol’ yr un mor bwysig yn y gwaith hwn ac y bydda wrth ysgrifennu unrhyw ddrama! Ac, wrth gwrs, mae gen i gynulleidfa llawer mwy uniongyrchol a beirniadol. Os nad ydy nhw’n uniaethu a chysylltu â’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn hollol amlwg. Does dim consesiwn cwrteisi yma!

Mae rhaid i’r ddrama hefyd apelio at y nifer o oedolion sydd yn tywys y plant i’r theatr. Y llynedd mi lwyddon yn hyn - roedd yna nifer o ddagrau llechwraidd yn cael eu sychu a lefel uchel o ymrwymiad a’r darn. Rydw i’n gobeithio y byddwn yn llwyddo eto eleni. Yn bendant mae cast anhygoel o dalentog sydd yn gweithio’n anhygoel o dda hefo’i gilydd a gyda sgiliau comedi gwych a sensitifrwydd.

Mae’r gwaith hefyd yn HWYL i ysgrifennu...rydw i’n ymhyfrydu yn y cyfle i gael chwarae hefo iaith mewn modd ddihunan ymwybodol - jyglo geiriau a rhythmau a dwli...mae’n brofiad o ryddhad i awdur!

Pa mor bwysig ydy cael gweithdai archwilio fel rhan o’r broses ysgrifennu?

Pwysig iawn - wrth ddatblygu’r testun yn ogystal â phrofi’r deunydd ar gynulleidfa darged. Fe wnes i weithdy PLUM am ddeuddydd ddechrau’r flwyddyn a oedd yn symbyliad enfawr i fy natblygiad o’r testun. Roedd yr actorion yn hael iawn ac mi wnes i’n fwriadol dewis actorion oedd hefo plant o oed y gynulleidfa darged. Fe wnaethom ni drafod yn hirfaith beth oedd y plant yn ei fwynhau ac yn ymateb iddo ac edrych ar hoff lyfrau cyfredol. Mae fy nyled yn fawr i’r actorion yma. Rydw i’n CARU gweithio ar y llawr hefo’r actorion - maen nhw’n bleser pur! Roedd eu mewnbwn yn helpu i mi siapio’r stori ac mi wnes i ddarganfod fy mod i’n gallu rhoi heibio rhai o syniadau a oedd yn edrych yn dda ar bapur ond yn anodd ei gweithredu ar y llawr... gwers amhrisiadwy. Fe wnaethom ni gario mlaen i ‘brofi’ deunydd yn yr ymarferion - drwy ymweld ag ysgolion a gwahodd pobl bach i weld y gwaith mewn datblygiad. Mae hyn yn trwytho i mewn i’r cynnyrch terfynol ar raddfa uchel iawn.

Sut brofiad oedd ysgrifennu a chyfarwyddo’r ddrama?

Gwych! Y llawenydd mwyaf o ysgrifennu a chyfarwyddo PLUM a CINDERS oedd gwireddu gweledigaeth holl gynhwysfawr. Rydw i’n meddwl bod ychydig o wahaniaethu ffals rhwng Awdur/Cyfarwyddwr. Rydw i’n ystyried fy hun yn Wneuthurwr Theatr. Fe ddes i at gyfarwyddo o gefndir actio - a thraddodiad cryf o waith dyfeisio hefo tîm o actorion. Yna symudais fwyfwy at ysgrifennu. Nid pob awdur sydd yn berchen ar sgiliau cyfarwyddo, neu, wrth gwrs sydd eisiau cyfarwyddo eu gwaith, ond mae gen i synnwyr cryf ynglÅ·n â sut y dylai fy ngwaith edrych, teimlo ac yn fwyaf pwysig, sut mae’n cael ei wireddu i’w gynulleidfa. A drwy fod yr awdur does dim rhaid i mi ddod i delerau a doethineb rhywun arall! Rydw i’n gallu torri fy ngwaith o’r ymarferiadau yn hawdd fel bod y gwaith yn gweithio! Yn eironig, felly, yr actorion sydd yn cwyno am golli geiriau!

Mae castio yn allweddol i brofiad ensemble da. Casglu actorion o fy nghwmpas sydd yn mwynhau a deall manyldeb y broses ac sydd yn ymateb yn bositif iddo ac yn dod a’i hunan a’i parodrwydd i gymryd risg. Rydw i bob amser yn cynnal gweithdy clyweliadau fel fy mod i’n gallu cael y cyfuniad cywir o actorion yn gweithio hefo’i gilydd. Tydi o ddim yn gweithio bob tro, ond drwy weithio am hanner diwrnod hefo pobl, mae modd cael synnwyr cryf o sut mae pobl yn ymateb ar y llawr....a sut gemeg sydd rhwng pobl.

Gan fy mod i yn ysgrifennu a chyfarwyddo’r gwaith, rydw i’n meddwl ei fod yn ddefnyddiol cael pobl eraill i wylio'r broses ar brydiau a mynegi barn. Mae gen i hefyd berthynas broffesiynol hyfryd hefo James Williams y cyfarwyddwr cerdd sydd yn aml yn cynnig perl i ddatblygiad y testun neu’r cynhyrchiad. Rydw i wir yn ymddiried yn ei farn ac mae hyn yn amhrisiadwy i mi. Rydw i hefyd yn gwrando ar beth sydd gan yr actorion i’w ddweud - a chroesawu eu mewnbwn artistig, ond yn deall yn y pendraw bod rhaid i mi gynnal y darlun artistig cyflawn.

Pa gyngor fydda chi’n ei roi i awduron sydd eisiau ysgrifennu ar gyfer yr oedran yma?

  • Eich bod chi wir eisiau ei wneud o - h.y. eich bod yn malio (hmm Meical Povey!) am eich cynulleidfa.
  • Fod gofyn paratoi ac ymchwil trylwyr fel pob gwaith arall i greu gwaith o safon.
  • Mae rhaid i chi adnabod eich cynulleidfa.
  • Fod rhaid i ran helaeth o’r storio fod yn weledol a bod llawer yn gallu cael ei ddweud heb eiriau.
  • Mae rhaid i’r gwaith gael cydbwysedd gweadol – dod o hyd i’r cyfnodau llonydd, y cyfnodau myfyriol a’r dwyster ymysg yr hwyl a’r gwallgofrwydd!
  • Bod yn ymwybodol y bydd rhai plant yn ofnus o’r profiad o fod mewn theatr, a does dim gobaith cadw diddordeb pawb felly fedrwch chi ddim bod yn rhy bryderus am blant yn crwydro, bwyta melysion ac angen mynd i’r tÅ· bach! Dyna beth mae plant yn ei wneud!
  • Mae plant yn eitha’ soffistigedig wrth ddeall amcanion ac arlliw - peidiwch â thanbrisio eu gallu i ddeall haenau naratif.
  • Logo