Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Cyfleon, Cyrsiau A Digwyddiadau Awduron

Gair ar led

Yn dilyn llwyddiant ein gweithdai ysgrifennu yng Nghaerdydd, mae'r rhaglen 'nawr yn cael ei lledaenu ar draws y wlad!

Mewn lleoliadau ledled Cymru bydd tiwtoriaid sy’n brofiadol mewn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, yn cynnal gweithdai wythnosol yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfer awduron newydd o bob oed.

Bydd rheini sy’n cymryd rhan yn dysgu am elfennau allweddol ysgrifennu drama, a gydag arweiniad ymarferol gan y tiwtoriaid, yn ogystal â thîm Sherman Cymru, bydd yr awduron yn datblygu a chwblhau drama newydd.

Dewisir y gorau ohonynt ar gyfer eu cyflwyno mewn darlleniadau ym mhob lleoliad, ble fydd yr awduron a ddewiswyd yn cael cyfle i weithio gyda chast a chyfarwyddwr proffesiynol.

Am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â Siân Summers | 029 2064 6984

Lleoliadau a Chyrsiau -

Galeri, Caernarfon (mewn cysylltiad â Theatr Bara Caws) cwrs Cymraeg i ddechrau Medi 2011
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth cwrs Saesneg i ddechrau Tachwedd 2011
Theatr y Torch, Aberdaugleddau cwrs Saesneg  i ddechrau Ionawr 2012
Theatr na n'Og, Castell-nedd cwrs Saesneg i ddechrau Ebrill 2012
Theatr na n'Og, Castell-nedd cwrs Cymraeg  i ddechrau Mai 2012
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug cwrs Saesneg i ddechrau Medi 2012
Y Ganolfan, Aberystwyth (mewn cysylltiad ag Arad Goch) cwrs Cymraeg i ddechrau Hydref 2012
Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon cwrs Saesneg  i ddechrau Ebrill 2013

Am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â Siân Summers | 029 2064 6984