Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Beth Sydd Ymlaen

Maw 07 Chw 2012 - Sad 11 Chw 2012

Sgint

Sgint

Yn y ddrama Gymraeg hon cawn glywed llais y bobl yn adrodd eu straeon gafaelgar, doniol a thrist am y wasgfa economaidd bresennol, a sut brofiad yw bod yn sgint go iawn.
[mwy]

 

Mer 15 Chw 2012 - Sad 18 Chw 2012

Lovesong

Lovesong Credit - Perou

Siân Phillips yw seren y stori hiraethus, brydferth hon sy'n cydblethu hanes pâr yn eu hugeiniau gyda'r un gwr a'r un wraig einioes yn ddiweddarach. Ysgrifennu gwych gan seren o awdur.
[mwy]

 

Mer 22 Chw 2012

Cerys Matthews

Cerys Matthews Credit - Rhys Frampton

Dyma gyfle arbennig i chi glywed y llais unigryw hwn mewn perfformiad byw sy'n cyfuno canu gwerin, y blues, a pop - 'tour de force' creadigol.
[mwy]

 

Iau 23 Chw 2012 - Sad 03 Maw 2012

For Once

For once

Drama ddoniol, dywyll sy'n mynd yn syth at galon cymuned sydd, yn sgil trasiedi, wedi ei throi wyneb i waered. Mewn man lle mae pawb yn gwybod eich enw, mae'n amhosib anghofio pwy ydych chi.
[mwy]

 

Gwe 24 Chw 2012 - Sad 25 Chw 2012

Elektro Kif

Elektro Kif ©Laurent Paillier

Doniol, chwim a lliwgar - cymysgedd syfrdanol o ddawns-stryd ddinesig a theatr yn syth o strydoedd Paris. Welsoch chi erioed ddim fel hyn o'r blaen!
[mwy]

 

Iau 01 Maw 2012 - Sad 17 Maw 2012

A Provincial Life

A Provincial Life

Daw un o ysgrifennwyr a chyfarwyddwyr gorau Cymru, Peter Gill, yn ôl i'r ddinas lle'i ganwyd gyda phortread o fywyd taleithiol yn Rwsia yn y 1890au.
[mwy]