Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Sut Fedrwch Chi Gefnogi'r Ymgyrch

 

Noddwyr yr Ailddatblygu… pam ddylech chi gefnogi ein hymgyrch?

sian phllips“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd  Sherman Cymru – theatr gynhyrchu De Cymru, sydd wedi’i lleoli yn y brifddinas. Mae’n hanfodol i ni godi’r arian yma er mwyn galluogi’r theatr i barhau i borthi cynulleidfa ac i ddiddanu.” Sian Phillips, Actores

matthew rhys

"Fy atgof a mhrofiad cyntaf i o fynd i’r theatr oedd yn y Sherman felly mae’r lle’n agos iawn at fy nghalon. Mae codi’r arian yma’n hollbwysig gan fy mod yn gobeithio bydd y theatr yn parhau i gyffroi, addysgu ac ysbrydoli sawl cenhedlaeth eto, fel ac y gwnaeth i mi’r holl flynyddoedd ‘na nôl" Matthew Rhys, Actor.

Mae Sherman Cymru’n agosáu eto fyth tuag at y gwaith ailddatblygu ac adnewyddu angenrheidiol. ‘Rydym eisoes wedi sicrhau 74% o’r arian, diolch i grant Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond ‘rydym dal angen eich help chi i godi £1.5 miliwn dros y 18 mis nesaf.


Campavan

‘Rydym wedi lansio ein Hymgyrch Ailddatblygu i helpu i godi’r £1.5 miliwn sy’n weddill er mwyn ein galluogi i gael gwared â’r toiledau sy’n gorlifo, y draeniau drewllyd, y seddi sydd wedi torri yn yr awditoriwm, y mynediad anhwylus i Leoliad 2, y swyddfeydd tywyll cyfyng a’r tyllau’n y to!

Byddwn yn chwilio am nawdd gan nifer o wahanol ffynonellau; y sector gorfforaethol ac ymddiriedolaethau a sefydliadau, drwy gynnal gweithgareddau hwyl a gweithgareddau codi arian gan y staff, gan gynnwys hanner marathon Caerdydd, ac wrth gwrs, drwy roddion unigol.

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am y cynlluniau adeiladu a ffyrdd i gefnogi’r ymgyrch

Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am yr Ymgyrch Ailddatblygu ac am godi’r £1.5 miliwn sydd ei angen er mwyn gwireddu’r prosiect hwn, cofrestrwch ar gyfer y diweddaraf

I siarad â rhywun am yr Ymgyrch byddwch mor garedig â chysylltu ag Emma Goad, Pennaeth Datblygu, ar 029 2064 6975, neu drwy e-bost.

Logo

ACW

Welsh Assembly Government

lotterycy3