Cefnogwch Ni
Cefnogi Rhagoriaeth Artistig
Bwriad Sherman Cymru yw creu a dathlu perthnasau creadigol sydd yr un mor fuddiol i’r Cwmni ag i bob un o’r partneriaid.
Mae Sherman Cymru yn cynnig cyfle gwych i wneud cyfraniad parhaol i ddatblygiad y theatr yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a chyfle i gyfrannu tuag at gynhyrchu theatr fywiog i’w harddangos yn y Brif Ddinas.
Amcan Sherman Cymru yw datblygu, cynhyrchu a chyflwyno ysgrifennu newydd, gwaith newydd, a’r repertoire rhyngwladol cyfoes, yn y Gymraeg a’r Saesneg, mewn amgylchedd a ysbrydolwyd gan anghenion y gynulleidfa yn ogystal ag anghenion yr artist. Mae Sherman Cymru wedi ymrwymo i roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y profiad theatrig, gan annog artistiaid ifanc y genhedlaeth nesaf i ddatblygu eu gwaith.
Gwerthoedd Sherman Cymru:
- Ceisio creu cysylltiadau, ysgogi, ysbrydoli a diddanu drwy ymrwymo i gynhyrchu gwaith o ansawdd uchel sy’n amrywiol ac yn arloesol
- Amcanu i fod yn sefydliad addysgol sy’n gwarchod ac yn datblygu ymarfer gorau
- Gwerthfawrogi, datblygu a buddsoddi mewn pobl er mwyn eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial
- Ymateb i draddodiadau, diwylliannau ac anghenion y gymuned leol
- Annog agwedd hyderus, perthnasol a mentrus
- Amcanu i fod yn agored ac yn hygyrch
- Ymdrin â’i adnoddau’n effeithlon ac yn gynhyrchiol er mwyn ennyn hyder y budd-ddeiliaid
Gallwch chi chwarae rhan mewn:
- Cynhyrchu theatr arbennig sy’n ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli
- Gwneud cyfraniad cenedlaethol arwyddocaol a pharhaol i asbri sector y theatr yng Nghymru
- Sicrhau mai’r cwmni fydd prif gomisiynydd a chynhyrchydd ysgrifennu newydd ar gyfer y llwyfan yng Nghymru
- Darganfod a meithrin y genhedlaeth nesaf o ymarferwyr theatr
- Darganfod a hybu talent mewn awduron newydd sy’n ymddangos
- Sicrhau fod pobl ifanc yn cael profiad ym mhob agwedd o’r broses o greu theatr
- Sicrhau proffil deithio gref yng Nghymru a Phrydain
I gyflawni’r lefelau ac ansawdd y gweithgaredd mae’r cwmni’n anelu ato, mae Sherman Cymru’n dibynnu ar gyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd, yn ogystal â derbyn cefnogaeth hanfodol o ffynonellau eraill; ymddiriedolaethau a sefydliadau, noddwyr corfforaethol ac unigolion.
Mae Adran Datblygu Sherman Cymru wedi ymrwymo i sefydlu, cynnal a chryfhau partneriaeth â holl gefnogwyr y cwmni. Rhaid pwysleisio ein bod yn sylweddoli, ac yn cydnabod, fod cydweithio’n ffynnu drwy gyfathrebu clir, ffyddlondeb a chreadigrwydd.
Am ragor o wybodaeth am waith datblygu Sherman Cymru, ac i ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch ag Emma Goad, Pennaeth Datblygu
