Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Clwb 100 Corfforaethol

Fel rhan o’r ymgyrch godi arian ar gyfer y gwaith ailddatblygu ‘rydym yn creu’r ‘Clwb100'.

Bydd gweithredu’r Clwb 100 yn syml. Os gallwn sicrhau cefnogaeth o £100 o leiaf gennych ar gyfer yr ailddatblygu, byddwn ni fel cwmni wedyn yn cynnig:

  • Cydnabyddiaeth i’ch cwmni ar wefan Sherman Cymru.
  • Digwyddiad rhwydweithio Clwb 100 yn Sherman Cymru wedi i’r theatr ail-agor.
  • Mynediad uniongyrchol at gronfa o gwmnïau yng Nghaerdydd, cronfa sy’n tyfu’n barhaol a all arwain at ehangu eich rhestr cleientiaid.
  • Cyfle i’ch cwmni gael ei gysylltu ag unig theatr gynhyrchu Caerdydd, a gyda datblygu talent artistiaid Cymru, wrth i Glwb 100 gael ei hybu mewn amryfal ffyrdd yn sgil y bartneriaeth.

Ein bwriad yw cyrraedd targed o 100 o aelodau busnes, gan roi cyfle i amrediad eang o gwmnïau ledled Caerdydd a De Cymru gymryd rhan yn y cynllun, ac wrth wneud hynny creu i gynrychioli nifer o sectorau gwahanol, gan greu pob cyfle posib i chi hybu eich cwmni o fewn y clwb.

Bydd y clwb yma’n rhoi cyfle i fusnesau De Cymru, yn enwedig y rheiny mae gennym ni berthynas â nhw eisoes, i’n helpu i wireddu trawsffurfio adeilad yr unig theatr gynhyrchu sydd yng Nghaerdydd, i sicrhau adeilad creadigol gall y brifddinas ymfalchïo ynddo. 

Bydd hyn wedyn yn trawsnewid profiad miloedd o bobl pan fyddant yn ymweld â Sherman Cymru yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth am y Clwb 100 Corfforaethol cysylltwch ag Emma Goad, Pennaeth Datblygu neu ffoniwch 029 2064 6975.