Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Cefnogwch Ni

Sherman Cymru Newydd

Dim ond ychydig o fisodd mis sydd i fynd cyn i brosiect ail-ddatblygu 18 mis Sherman Cymru ddod i ben. Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn gwella’r profiad byddwch chi, a miloedd o bobl eraill, yn ei gael pan fyddwch yn ymweld â'r theatr yn y dyfodol. 'Rydym yn adnewyddu:

  • Yr ardal blaen tŷ
  • Wyneb y theatr
  • Y seddi
  • Y systemau gwresogi ac awyru
  • Ac yn gwella pob mynediad 

Edrychwch ar ein cynlluniau cyffrous ar gyfer yr adeilad - cynlluniau'r adeilad 


"Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Sherman Cymru – theatr gynhyrchu De Cymru, sydd wedi’i lleoli yn y brifddinas. Mae’n hanfodol i ni godi’r arian yma er mwyn galluogi’r theatr i barhau i borthi cynulleidfa ac i ddiddanu."
Sian Phillips, Actores

Arian

‘Rydym wedi cael grant Cyfalaf o £3.9 miliwn gan y Loteri, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer cwblhau’r gwaith ail-ddatblygu, ac ‘rydym wedi codi 90% o’r arian sydd ei angen hyd yma. 

Ond ‘rydym yn dal angen eich cymorth chi i godi £250,000.

Byddwn yn chwilio am arian ar gyfer yr ail-ddatblygu o nifer o wahanol ffynonellau:

Cysylltwch ag Emma Goad, y Pennaeth Datblygu, am wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch. emma.goad@shermancymru.co.uk 
029 2064 6975.

Logo

Arts Council of Wales Welsh Government

lotterycy3