Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Cynhyrchiadau 2008-2009

Kontakt: 5-7 Mehefin 2008

Kontakt 2: 29 Mai - 6 Mehefin 2009

Datblygwyd a Chyfarwyddwyd gan Phillip Mackenzie

Bwrdd.                                                                     
Un bylb 'letrig.
Dwy gadair.
Cyfrinach.
Cyfaddefiad.
Cwestiynu.
Gwahoddiad.
Cyfres o gyfarfodydd unigryw.
Ydych chi'n meiddio gwneud Kontakt?

Roedd Kontakt yn brofiad newydd sbon i'r Theatr Ieuenctid a chefnogwyd yr ymchwil ar gyfer y cynhyrchiad gan wobr 'Creative Wales'. Ysgogwyd y perfformiad gan waith y Syniadolwr Almaenig, Hannah Herzig.

Gair gan y Cyfarwyddwr -

"Graz, Awstria 2007. ‘Rwy’n eistedd wrth fwrdd cardiau yng ngolau un bwlb letrig. Mae 50 bwrdd tebyg yn yr un ystafell, a phob un wedi’i oleuo gan un bwlb letrig. Mae aelod o’r cyhoedd yn eistedd wrth bob un ohonynt yn siarad ag arbenigwr. Drwy gydol y noson mae pobl yn archebu eu lle ar gyfer cyfres o gyfarfodydd 30 munud wyneb yn wyneb gydag arbenigwr o’u dewis nhw. Arbenigwyr sy’n gweithio yn y ddinas ble cynhelir y digwyddiad -mae’r ‘Academi Symudol’ eisoes wedi ei chynnal yn Fienna, Berlin, Warsaw, Graz ac Istanbwl.

Yna cafwyd syniad - beth os mai pobl ifanc yw’r arbenigwyr? Yn rhannu straeon, yn gofyn cwestiynau, ac yn cynnal sgyrsiau anghyffredin gydag oedolion mewn lleoliad tebyg. O’r syniad syml hwn crëwyd Kontakt.

Crëwyd Kontakt yn wreiddiol yma yn y Sherman ym Mehefin 2008. Kontakt 2 oedd cam nesaf yn esblygiad y prosiect hwn, ac fe’i perfformiwyd gan 60 o bobl ifanc yn Saesneg ac yn Gymraeg, gan gynnwys myfyrwyr o’r Atrium. Ers hynny mae’r patrwm wedi ei addasu gan Birmingham Rep, ac yng Ngorffennaf gan Theatr yr Arcola, Llundain."