Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Cynhyrchiadau 2009-2010

Kontakt 2: 29 Mai - 6 Mehefin 2009

Kontakt 3: 28 October - 6 November 2010

Datblygwyd a Chyfarwyddwyd gan Phillip Mackenzie

Roedd Kontakt yn brofiad newydd sbon i'r Theatr Ieuenctid a chefnogwyd yr ymchwil ar gyfer y cynhyrchiad gan wobr 'Creative Wales'. Ysgogwyd y perfformiad gan waith y Syniadolwr Almaenig, Hannah Herzig.

Crëwyd Kontakt, sy'n archwilio sut mae cyfathrebu a dysgu oddi wrth ein gilydd, yn wreiddiol yn y Sherman ym Mehefin 2008. Kontakt 2 oedd cam nesaf yn esblygiad y prosiect hwn, ac fe’i perfformiwyd gan 60 o bobl ifanc yn Saesneg ac yn Gymraeg, gan gynnwys myfyrwyr o’r Atrium. Perfformiwyd Kontakt 3 gan 130 aelod o'r Theatr Ieuenctid yn Eglwys Sant Ioan, Treganna. Mae’r patrwm hefyd wedi ei addasu gan Birmingham Rep, a gan yr Arcola Theatre, Llundain.

Gair gan y Cyfarwyddwr -

"Graz, Awstria 2007. ‘Rwy’n eistedd wrth fwrdd cardiau yng ngolau un bwlb letrig. Mae 50 bwrdd tebyg yn yr un ystafell, a phob un wedi’i oleuo gan un bwlb letrig. Mae aelod o’r cyhoedd yn eistedd wrth bob un ohonynt yn siarad ag arbenigwr. Drwy gydol y noson mae pobl yn archebu eu lle ar gyfer cyfres o gyfarfodydd 30 munud wyneb yn wyneb gydag arbenigwr o’u dewis nhw. Arbenigwyr sy’n gweithio yn y ddinas ble cynhelir y digwyddiad -mae’r ‘Academi Symudol’ eisoes wedi ei chynnal yn Fienna, Berlin, Warsaw, Graz ac Istanbwl.

Yna cafwyd syniad - beth os mai pobl ifanc yw’r arbenigwyr? Yn rhannu straeon, yn gofyn cwestiynau, ac yn cynnal sgyrsiau anghyffredin gydag oedolion mewn lleoliad tebyg. O’r syniad syml hwn crëwyd Kontakt."