Cynhyrchiadau Blaenorol
18/6 - Mehefin 2007
Gan Dinos Aristidou
Cyfarwyddwyd gan Phillip Mackenzie

‘Mae rhai’n dweud i ddiniweidrwydd farw noson y tân. Wedi’r noson honno ni allem edrych i fyw llygaid neb heb amau. Dim hyd yn oed y plant.’
18/6. Y noson frawychus. Ymosodiad sy’n diffinio’r ganrif. Mae’r brenin, ei ferched a’u gwyr yn farw. Y wlad wedi’i rhwygo rhwng y cof am y gorffennol a’r ofn am y dyfodol. Mae stori’n codi o froc môr y cof.
Menyw sydd wedi’i chloi mewn byncer yn ceisio gwneud synnwyr o’i ffotograffau. Plentyn yn ymbalfalu drwy’r tywyllwch yn cael ei arwain gan hen ddyn. Tywysog yn cael ei baratoi. Pedwar deg naw priodferch yn dawnsio o farw’n fyw. Rhyfel yn cael ei chyhoeddi.
Drama gomisiwn arbennig am ddyletswydd, gwleidyddiaeth a ffotograffiaeth yn seiliedig ar y chwedl glasurol Roegaidd am y Danaides. Profiad cyffrous, gweledol gan Company 4.
Gospel - Mehefin 2006
Gan DJ Britton
Cyfarwyddwyd gan Phillip Mackenzie

Haid o bobl ifanc mewn cotiau mawr yn teithio i ardaloedd tywyll dinesig y Brydain gyfoes. Gan gymryd arnynt eu bod yn gymeriadau yn yr Efengyl yn ôl Mathew, maent yn ailchwarae ac yn ail-greu golygfeydd o un o’r storïau enwocaf i’w hadrodd erioed. Mae camerâu Cylch Cyfyng yn gwylio pob symudiad. A yw Jiwdas yn fradwr? Fel sydd wedi digwydd erioed mae gwyliadwriaeth ac amheuaeth yn gwau drwy’r stori ac o amgylch y sawl sy’n ei hadrodd.
Perfformir ‘Gospel’ gan ensemble o 35 o bobl ifanc (16 – 25 mlwydd oed). Ail-lwyfannwyd y cynhyrchiad hwn ar gyfer Gwyl Skena Up yn Kosovo, ac fe’i gwnaethpwyd yn ffilm yng ngerddi Castello do Galleazza, yr Eidal.
Bob's Dance Hall - Mehefin 2005
Gan DJ Britton
Cyfarwyddwyd: Phillip Mackenzie
O’u blaenau gwlad yr addewid. Y tu ôl iddynt y gorffennol a’r holl ddychryn a berthyn iddo. ‘Rydych wedi eich ynysu mewn dawnsfa ble unwaith ‘roedd marathon o ddawnsfeydd yn shifflo mynd hyd flinder llwyr. Erbyn hyn ‘cyfleuster dal’ yw’r enw ar y lle, hanner ffordd i nunlle. Ond pam chi? Beth mae nhw’n ei wybod? Mae’r lle’n artaith i fewnfudwyr, ac mae gobeithion a breuddwydion yn cronni yno, ond mae dynoliaeth yn gwrthod ildio yn wyneb awdurdod. Stori fyd-eang ar gyfer yr oes ‘rydym ni’n byw ynddi.
Dam Dogs - Ebrill 2004
Cyfarwyddwyd gan Clive Flowers a Phillip MacKenzie

Pam bod gangsters wastad yn Ddynion?
Wedi’i ysbrydoli gan gampwaith Quentin Tarantino ‘Reservoir Dogs’ a chlasur cwlt Ringo Lam ‘City on Fire’, mae ‘Dam Dogs’ yn ffrwydriad theatrig moel, caled, gwbl broffesiynol gan Theatr Ieuenctid y Sherman.
Mae pwysau’n codi, gwaed yn llifo, cyhuddiadau a bwledi’n fflïo. Yn yr awyrgylch ffrwydrol hwn mae cast o ferched yn cael eu gorfodi i wynebu’r cwestiynau hollbwysig hynny am ymddiriedaeth, ffydd, proffesiynoldeb, twyll a brad. Mae’r ‘Dam Dogs’ yma’n glyfar, yn gegog, yn ddoniol, ac yn annisgwyl o deimladwy, hyd yn oed ar y diwedd.
Dressing Up - Ebrill 2003
Cyfarwyddwyd gan Phillip Mackenzie
100 o oleuadau, 50 o newidiadau mewn gwisg, ‘catwalk’ 15 metr, 5 meicroffon, 1 troellwr recordiau, 1 troellwr fideo…..a 50 o bobl ifanc yn dod ynghyd i greu profiad theatrig unigryw.
Yn y darn dyfeisiedig hwn mae aelodau o Gwmni Ieuenctid y Sherman yn defnyddio’u profiadau eu hunain i greu delweddau teimladwy, tystiolaethau, darnau o gerddoriaeth, hanesion, straeon caru, dawnsio gwyllt, ystrydebau a karaoke!
Mewn cydweithrediad â Choleg Ffasiwn Casnewydd.
