Sherman Cymru

 

Cynllun Mentora

 


Fel rhan o’n proses barhaol ni o ymgysylltu, mae cynllun mentora ar waith erbyn hyn sy’n caniatáu i gyn-raddedigion rhaglen ‘Acting Out’ Caerdydd ddal i ymwneud ag AOC drwy chwarae rhan mentor.

Mae’r myfyrwyr yn gweithio’n wirfoddol i gynorthwyo a mentora grwpiau newydd o fyfyrwyr gydag AOC, ym mhob agwedd o addysg ar y cwrs drwyddo draw.  Cânt eu gwobrwyo gyda thystysgrif gan gynllun Gwirfoddolwr y Mileniwm yr RNIB.
Mae’r mentoriaid yn cynnig cefnogaeth mewn nifer o wahanol ffyrdd, drwy gynorthwyo cydlynydd neu diwtoriaid yr AOC mewn gweithdai, drwy ymwneud yn uniongyrchol â’r bobl ifanc yn y grwp, neu drwy helpu’n gyffredinol drwy drefnu lleoliadau a mannau perfformio.  Maent hefyd yn dangos cefnogaeth wych yn ystod perfformiadau drwy ymddangos fel actorion gyda’r grŵp yn aml, neu drwy weithio tu ôl i’r llenni yn helpu gyda’r ymarferion ac yn sicrhau fod y cynyrchiadau’n mynd rhagddynt yn rhwydd.
Yn ddiweddar mae’r mentoriaid wedi ffurfio grwp Theatr Fforwm o’r enw  ‘Acting Up’, sy’n bwriadu dyfeisio a chyflwyno gweithdai gwrth-fwlio ar gyfer grwpiau ieuenctid ac ysgolion.  Lansiwyd prosiect peilot Theatr Fforwm ‘Acting Up’ yn llwyddiannus yn ddiweddar yn ystod seremoni wobrwyo gwrth-fwlio’r YPP 07.
Am wybodaeth bellach ynglyn ag ‘Acting Up’, neu i archebu sesiwn Fforwm cysylltwch â chyd-lynydd ‘Acting Out’  Jason Camilleri <mailto:jason.camilleri@shermancymru.co.uk>