Cynlluniau'r Adeilad
Bydd gwaith adnewyddu sylweddol yn digwydd i’r Sherman dros y ddwy flynedd nesaf. Golyga hyn y bydd y theatr yn cael ei thrawsnewid ac yn datblygu’n adeilad arwyddocaol yn ardal y Waun-Ddyfal, Caerdydd.
“Mae ein cynlluniau ar gyfer yr ail-ddatblygu yn anelu at adeiladu lleoliad teilwng ar gyfer yr unig theatr gynhyrchu sy’n bodoli ym mhrifddinas Cymru, a’i chynulleidfa - adeilad gallwn oll ymfalchïo ynddo.”
Emyr Jenkins, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Sherman Cymru
Mae’r penseiri, Capita Symonds, oedd hefyd yn gyfrifol am brosiect Canolfan Mileniwm Cymru, wedi cynhyrchu argraffiadau artistig o ddiwyg y theatr newydd (gweler y galeri). Bydd yr adeilad newydd yn trawsnewid profiad y gynulleidfa. Bydd yr ardal blaen ta’n cael ei adnewyddu’n llwyr, gan gynnwys toiledau newydd, bar a chyfleusterau caffe newydd, yn ogystal â diwyg gwbl newydd i wyneb y theatr. Bydd yno hefyd seddi newydd, systemau gwresogi ac awyru newydd, a bydd y mynediad i bob ardal o’r adeilad yn cael ei wella. Bydd yr ardaloedd cefn llwyfan hefyd yn cael eu gwella ar gyfer staff a chyfranogwyr, gan gynnwys ystafell ymarfer newydd er mwyn datblygu talent.
Mae’r argraffiadau artistig o’r theatr newydd hefyd yn cael eu harddangos yng nghyntedd y Sherman nes bydd y theatr yn cau ym mis Ionawr 2010.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch codi arian drwy ymweld a Sut fedrwch chi gefnogi’r ymgyrch?
Os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y Prosiect Cyfalaf a’r Ymgyrch i godi’r £1.5 miliwn sy’n angenrheidiol er mwyn gwireddu’r prosiect hwn, yna cofrestrwch am y diweddaraf.
I siarad â rhywun am yr Ymgyrch byddwch mor garedig â chysylltu ag Emma Goad, Pennaeth Datblygu, ar 029 2064 6975, neu drwy e-bost.




