Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Cyrsiau Awduron

Mae Ceri a Rick yn mynychu Cwrs 'Sgwennwyr cyfredol Sherman Cymru, sy`n cael ei arwain gan Alan Harris

Darllenwch blog Rick yn y Saesneg a blog Ceri yn y Gymraeg... 

Wythnos 1

Cael persbectif gwahanol ar bethau. Dyna’r prif beth a ddaeth yn amlwg nos Fercher. Sgwennu drama mewn deg munud? Nefar in Iwrop? Ond wrth gael sialens fel na, mae rhywun yn gorfodi ei hun i feddwl mewn ffordd arall. Mewn 10 munud, ‘roeddwn i wedi gweld cymeriadau, stori (o ryw fath) ac wedi teimlo rhyw naws am y darn. Biti na fyse pob deg munud yr un mor gynhyrchiol! Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weddill y cwrs. Mae Allan yn ysbrydoliaeth go iawn.

Wythnos 2

Creu cymeriadau. Dyma oedd prif ffocws yr wythnos hon. Yr oedd Alan yn pwysleisio pwysigrwydd adnabod y cymeriadau drwyddynt draw. Dyma rywbeth yr wyf wedi dod yn ymwybodol iawn ohono wrth weithio ar ffilm i S4C.

Weithiau, y mae’n rhaid i’r stori newid. Weithiau mae’n rhaid cymryd gogwydd newydd ar bethau. Weithiau, wedi cyfarfodydd sgript gyd chynhyrchwyr, y mae’n hawdd torri calon braidd. Wrth wrando ar y tîm yn tynnu’r sgript yn ddarnau, mae’n hawdd teimlo bod ‘y stori’ (y peth hwnnw sydd wedi bod yn rhan o’m bywyd ers misoedd neu flynyddoedd yn aml) yn cael ei cholli.

Ond fe ddywedodd aml i berson wrthyf am beidio â phoeni am hyn, gan f’atgoffa mai adnabod y cymeriadau yw’r peth pwysig. Yr wyf wedi dod i gredu hynny fwyfwy o hyd. Wrth adnabod y cymeriad, y mae ef neu hi yn fy arwain i, ac mae’n gennyf syniad pa mor bell y gallaf wthio’r cymeriadau. Hyd yn oed os yw’r stori’n newid, gall y cymeriadau ymateb yn naturiol i’r digwydd, ac y mae’r awdur yntau yn teimlo wedyn ei fod ef/hi yn parhau i ddweud stori ei gymeriadau.

Yr oedd ymarferion Allan yn pwysleisio hyn. Yr oedd ganddo restr o ugain o gwestiynau - rhai ohonynt yn eithaf dyrys megis: ‘Pe buasai gan y cymeriad hwn ddim ond 2 funud i fyw . . . beth fyddai’n ei ddweud?’ Wrth wthio cymeriad i’r lle hwn, fe ddysgais lawer iawn amdano. Dyma weithdy gwerthfawr iawn unwaith yn rhagor.

Wythnos 3

“Helo Nain sy’n bwy yn Llangynog ger Bala, ac sydd wedi bod yn byw yno ers ei phlentyndod.” Dyma enghraifft o un o’r ymarferion y gwnaethon ni'r wythnos hon. Yr oedd Allan am bwysleisio fod yr ‘Expositional’ yn y ddrama yn rhywbeth sy’n ei gwanhau yn arw. Wrth esbonio’n ormodol i’r gynulleidfa, mae’r ddrama yn cael ei cholli.

Pregeth, neu wers sydd yno wedyn. Ers dydd Mercher dwythaf yr wyf wedi darllen oddeutu pedair drama, ac yn methu peidio â sylwi ar yr ‘expositional’ neu’r diffyg ‘exposition’ yn y dramâu hynny. Unwaith eto, llwyddodd Allan i roi ymarferion inni sydd wedi gwneud i fi feddwl mewn ffordd newydd ac sydd wedi aros gyda mi drwy’r wythnos.

Logo