Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Datblygiad Artistiaid Newydd

New Artists'       

‘Rydym yn edrych am geisiadau gan artistiaid sydd eisiau datblygu eu prosiectau theatr mewn amgylchedd broffesiynol.

Ydych chi’n dalent sydd heb ei ddarganfod hyd yn hyn?
Ydych chi’n ceisio datblygu eich crefft mewn ffyrdd newydd a chyffrous?
Oes angen llwyfan arnoch i archwilio ac arbrofi, neu i chwarae â syniadau’n unig?
A fyddai cael defnyddio ein hadnoddau, ein gofod a’n hamser, a chael chyngor gan ein tîm proffesiynol o gymorth i chi ddatblygu eich ymarfer artistig yn sylweddol?

Gallai artistiaid newydd olygu: Cyfarwyddwyr, Actorion, Cynllunwyr Goleuo, Cynllunwyr Sain, Cynllunwyr, Coreograffwyr, Dawnswyr, Beirdd sy’n Perfformio, Artistiaid sy’n Perfformio, Cyfansoddwyr, Cantorion ac ymarferwyr perfformio o bob math.

’Rydym eisiau clywed eich syniadau. ‘Rydym yn awyddus i’ch cynorthwyo i greu gwaith.

Dros y 18 mis diwethaf mae ei menter Datblygu Artistiaid Newydd wedi hyrwyddo tua 30 o artistiaid, sy’n gweithio mewn ffyrdd celfyddydol amrywiol, i ymchwilio a datblygu eu gwaith.  Mae nifer o’r prosiectau hyn wedi cael eu cynhyrchu’n gyflawn, gan gynnwys addasiad cwmni Give it a Name o Heart of Darkness gan Joseph Conrad fydd yn cael ei berfformio mewn lleoliad penodol, sef yn 10 Feet Tall, Caerdydd, a bydd drama Gareth Potter, Gadael yr Ugeinfed Ganrif , yn cael ei chynhyrchu’n gyflawn mewn cydweithrediad â Sherman Cymru ym mis Awst.

Dylai pob cais am y cynllun hwn ddatgan sut y byddai o gymorth i chi i ddatblygu ac esblygu fel artist, a dylai gynnwys manylion y prosiect arbennig ‘rydych chi’n awyddus i’w ddatblygu gyda ni yn Sherman Cymru.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cysylltwch â Phillip Mackenzie 

‘Rydym yn croesawu ceisiadau am brosiectau yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Logo