Datblygiad Artistiaid
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein menter Datblygu Artistiaid wedi galluogi tua 35 o artistiaid ymchwilio a datblygu eu gwaith, gan fynd i’r afael â nifer o ffurfiau celfyddydol gwahanol.
Ers y cyfnod cychwynnol hwnnw mae rhai o’r prosiectau wedi eu datblygu’n gynyrchiadau llawn. Mae’r rhain yn cynnwys: addasiad Give it a Name o Heart of Darkness, darn saflebenodol yn 10 Feet Tall, ac, yn fwy diweddar, eu miwsical ska Rude, a berfformiwyd yn The Rocking Chair; a drama un dyn Gareth Potter, Gadael yr Ugeinfed Ganrif, cyd-gynhyrchiad rhwng Sherman Cymru a Dan y Gwely. Dyma un o’r prosiectau sydd i ddod: cynhyrchiad o ddrama Caryl Churchill Serious Money, a gyfarwyddir gan Mathilde Lopez ac a gynhyrchir gan Waking Exploits
’Rydym eisiau clywed eich syniadau. ‘Rydym yn awyddus i’ch cynorthwyo i greu gwaith.
‘Rydym yn edrych am geisiadau gan artistiaid sydd eisiau datblygu eu prosiectau theatr mewn amgylchedd broffesiynol.
- Ydych chi’n dalent sydd heb ei ddarganfod hyd yn hyn?
- Ydych chi’n ceisio datblygu eich crefft mewn ffyrdd newydd a chyffrous?
- Oes angen llwyfan arnoch i archwilio ac arbrofi, neu i chwarae â syniadau’n unig?
A fyddai cael defnyddio ein hadnoddau, ein gofod a’n hamser, a chael chyngor gan ein tîm proffesiynol o gymorth i chi ddatblygu eich ymarfer artistig yn sylweddol?
Gallai artistiaid olygu: Cyfarwyddwyr, Actorion, Cynllunwyr Goleuo, Cynllunwyr Sain, Cynllunwyr, Coreograffwyr, Dawnswyr, Beirdd sy’n Perfformio, Artistiaid sy’n Perfformio, Cyfansoddwyr, Cantorion ac ymarferwyr perfformio o bob math.
‘Rydym yn croesawu ceisiadau am brosiectau yn Saesneg ac yn Gymraeg - dylai pob cais am y cynllun hwn ddatgan:
- sut y byddai o gymorth i chi i ddatblygu ac esblygu fel artist
- a dylai gynnwys manylion y prosiect arbennig ‘rydych chi’n awyddus i’w ddatblygu gyda ni yn Sherman Cymru.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cysylltwch â Phillip Mackenzie





