Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Drws Agored

open house

Mae theatr Sherman Cymru yng Nghaerdydd wedi bod ar gau ers mis Chwefror 2010 er mwyn cwblhau gwaith adnewyddu sylweddol. Felly, er mwyn dathlu ail-agor y ddwy theatr, y cyntedd a’r caffi bar newydd, croesawgar, a’r holl welliannau ‘rydym wedi eu gwneud cefn llwyfan, ‘rydym am gynnal achlysur go arbennig.

Ymunwch â ni o 10yb, ddydd Sadwrn 4 Chwefror ar gyfer Drws Agored. Cewch eich tywys o amgylch y theatr, cynhelir gweithgareddau arbennig i'r teulu fydd yn amrywio o weithdai i sesiynau adrodd stori, a chewch gyfle i fynd i’r ardaloedd cefn llwyfan ac i’r gweithdy i weld y gwaith ailwampio fu yno. Bydd y caffi bar ar agor ac yn gweini diodydd a phrydau ysgafn, ac o 7yh cewch fwynhau cerddoriaeth fyw am ddim.

Mwy o wybodaeth

Dewch draw i’n helpu i ymgartrefu go iawn. A chofiwch ein cyflwyno i’ch teulu a’ch ffrindiau – yn enwedig rhywun sydd erioed wedi bod yma o’r blaen.