Sherman Cymru

 

Egin 2008

Roedd Egin yn ddigwyddiad newydd eleni yn arddangos gwaith mewn datblygiad gan awduron ifainc, ar eu prifiant, a phrofiadol o Gymru.

Gyda chymorth cyfarwyddwyr, cerddorion a pherfformwyr talentog, creuwyd dros bymtheg o ddarnau byr, bachog o theatr gan `sgrifennwyr Egin.

Ym mis Ionawr 2008, dewiswyd pum prosiect fel man cychwyn i`r ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr a cherddorion a gymerodd ran.

Wedi diwrnod o weithdy gydag awdur profiadol, cyflwynodd ein sgwennwyr ar eu prifiant amrywiaeth o waith yn Gymraeg a Saesneg. Cafwyd serch ac angerdd ifanc gan Seumas Loretto yn Lush, stryd o gyfrinachau yn Min Nos Fan Hyn gan Ceri Elen Morris. Cafwyd oeri`r gwaed yn Coldstone Station Owen Thomas, tra roedd na gybolfa o negeseuon gan Rhiannon Boyle yn Duw a Wyr. Ongl abennig fenywaidd ar un o straeon creulonaf y Mabinogi oedd gan Emily Steel tra canfu Nic Ros ddigonedd o wleidyddiaeth rhywiol mewn gwylnos ysbrydion yn Prawf.

Er bod rhai prosiectau wedi cychwyn o ddim, dechreubwynt dau awdur profiadol oedd sgwennwr o fri o`r gorffennol, yr aethant i`r afael ag o gan sgwennu drama fer yn ymsteb iddo. Dyma oedd hanfod prosiect Awen. Beckett oedd dechreubwynt Aled Jones Williams i Merched Eira tra darganfyddodd Alan Osborne mai prin oedd y newid yn y cymoedd oddàr cyfnod Crawshay yn Ebeneser and  the Fair Country.

Cafodd bobl ifainc y Sherman gyfle i ddatblygu eu syniadau fel rhan o brosiect Cocsio ac archwiliodd dau awdur profiadol ddigwyddiadau cyfredol fel rhan o brosiect Gair-Am-Air  Plymiodd Meredydd Barker i addasu geneteg yn GM a theithiodd Alan Harris o Dreorci i China yn ei daith am y gwirionedd y tu ôl i gau ffatri Burberry yn y Rhondda yn Burberry: A Welsh Campaign .

Yn ogystal ag awduron a chyfarwyddwyr, yn ein prosiect Taro Nodyn defnyddiasom gerddorion i archwilio effaith geiriau a cherddoriaeth ar ei gilydd. Cyfarfu geiriau Gary Owen á cherddoriaeth Rhodri Davies yn Sound is to Speech as Speech is to Sound. Canfu Eddie Ladd a Steffan Cravos dir cyffredin yn Radio Llibertat. Gweithiodd Kit Lambert a Paul Jones gydaì gilydd i greu An Epic Portrayal of Mundane Love tra creodd Tracy Harris a`r band indie Gindrinker The Push and The Pull

Daeth Dirty Protest i`r Sherman am y tro cyntaf gydaì Three Dirty Plays a daeth Alun Saunders yn fuddugol yn Rownd Derfynol SgriptSlam 2008.

Yn ogystal á gwaith mewn datblygiad roedd sgyrsiau, trafodaethau a sawl dadl yn troi o gwmpas themâu arbennig megis Theatr Gair-Am_Air a`r Theatr Gymreig.

Gydol y cyfnod roedd criw dethol o sgwennwyr, o dan arweiniad Amy Hodge, yn creu gwaith o`r newydd drwy gyfres o weithdai, ymarferion a gweithgareddau eraill sef ein prosiect Coursework.

Os golloch chi Wyl Egin eleni, ond hoffech fwy o wybodaeth am `sgwennu newydd a datblygu sgriptiau, cysylltwch á`n Tim Llenyddol Sian Summers neu Branwen Davies