Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Gweithgareddau Codi Arian

Noson yng nghwmni Matthew Rhys


Dydd Iau 16 Mehefin am 5.30yh
Kuku Club, Park Plaza, Caerdydd
         
                                                                                                               

Matthew RhysYmunwch â Matthew Rhys am noson gartrefol o ddiodydd a chanapés, ac i gael cipolwg personol ar ei fywyd fel actor ffilm a theledu y ddwy ochr i Fôr yr Iwerydd. 

Matthew yw un o sêr amlycaf Cymru, ac yn adnabyddus am ei berfformiadau yn Very Annie Mary, The Edge of Love ac yn fwy diweddar yn y gyfres Americanaidd lwyddiannus Brothers & Sisters, a’r ffilm Gymreig, Patagonia.

Fel Noddwr Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru, mae Matthew wedi gwneud amser yn ei raglen brysur i ddod atom am un noson yn unig, noson arbennig iawn, i godi arian ar gyfer y theatr ar ei newydd wedd.

Dyma ddigwyddiad i godi arian felly ‘rydym yn awgrymu cyfraniad lleiaf o £40 er mwyn fynychu’r noson.

Emma Goad ar 029 2064 6975
Suzanne Carter ar 029 2064 6970

Mae nifer cyfyngedig o leoedd felly ffoniwch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi! 

  

Park Plaza   Mr Producer