Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Gadael Yr Ugeinfed Ganrif

Gadael Yr Ugeinfed Ganrif

Yn nyddiau llwyd refferendwm ’79, roedd Cymru wedi colli’i phlwc a’r sin roc Gymraeg yn nofio mewn nostaljia. Ond roedd ymweliad aflafar y Sex Pistols â Chaerffili wedi cyffroi dychymyg un bachgen ysgol. Dyma ffurfio band...a fu pethau wedyn byth yr un peth.

Anturiaethau hunangofiannol un dyn dros ddau ddegawd olaf yr Ugeinfed Ganrif, a ddaeth i benllanw gyda Cŵl Cymru a Senedd ym Mae Caerdydd, sy’n plethu delweddau, cerddoriaeth a stori wir. Yn ddarlun egnïol ac o’r galon o gyfnod yn ein hanes pan fynnodd un genhedlaeth aflonydd bod y byd yn dod i Gymru ac a aeth â Chymru i’r byd.
 

Adnoddau

Prynu Cyhoeddiadau

Datblygwyd trwy fenter Datblygu Artistiaid Sherman Cymru.

  Ysgrifennwyd a Pherfformir gan Gareth Potter

Cyfarwyddwr: 
Phillip Mackenzie

Cynllunydd: 
Rachael Canning

Cynllunydd Goleuo: 
Andy Hamer

Cynllunydd Fideo
Dylan Goch