Gweithdai A Hyfforddiant
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a hyfforddiant i bob oedran.
Gweithdai sy’n cyd-fynd a Chynyrchiadau Sherman Cymru
Mae tîm Dysgu Creadigol Sherman Cymru, a’r tîm Llenyddol yn cynnig gweithdai i gyd-fynd â’r mwyafrif o gynyrchiadau Sherman Cymru.
Drwy gyfrwng gemau, ymarferion a gwaith sgript ymarferol bydd y gweithdai agoriadol yn cyflwyno themâu’r dramâu a’r cymeriadau.
Bydd cyfle yn y gweithdai clo i’r cyfranogwyr roi adborth am y ddrama, ac i archwilio ffyrdd amrywiol o lwyfannu’r gwaith.
Bwriadau:
- I alluogi cyfranogwyr i gael mynediad at y gwaith ‘rydym yn ei wneud yn Sherman Cymru
- I fynd at graidd y ddrama, y cymeriadau a’r posibiliadau llwyfannu mewn modd bywiog ac atyniadol
- I fanylu ar themâu’r ddrama
- I gynorthwyo’r cyfranogwyr gyda’i gwaith eu hunain yn yr ysgol/coleg neu’r brifysgol, yn ystod ac wedi’r gweithdy
- I roi cefndir i’r ddrama, ac i ysgogi diddordeb pellach yn yr awdur a’r cwmni
Ar gyfer pwy mae’r gweithdai?
- Pobl ifanc: Disgyblion mewn ysgolion, colegau trydyddol a phrifysgolion; Canolfannau Ieuenctid a sefydliadau ieuenctid
- Oedolion: Grwpiau cymunedol; grwpiau sy’n cynorthwyo ymofynwyr noddwyr a ffoaduriaid; grwpiau â diddordebau penodol, a chlybiau
Mae’r gweithdai’n para tua awr a hanner. Bydd pob tîm yn gweithio i ba bynnag amser sy’n gyfleus i bob grŵp.
Dyfyniadau gan rai o fyfyrwyr Coleg Glan Hafren sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn gweithdai:
"It gave us more of an insight of the play and it helped me understand the plot and the characters more when I watched it. It made me more interested in the play because I wanted to find out more about the characters and everyone's story."
"I enjoyed the play more because I understood it better."
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phil Mackenzie





