Gwybodaeth Dechnegol
Mae dau lwyfan yn adeilad Theatr y Sherman – Lleoliad 1 a Lleoliad 2.
Lleoliad 1:
Mae 468 o seddi yn Lleoliad 1 wedi’u gosod ar un lefel sy’n gogwyddo am i fyny. Mae’r Ystafell Reoli’r Goleuadau a’r Ystafell Reoli Sain yn y cefn, ynghyd â’r Bocs Taflunio. Lleolir y ddesg sain yng nghefn yr awditoriwm. Rheolir y Goleuadau gan Strand 530i. Rheolir y Sain gan Midas Verona.
Mae waliau’r Awditoriwm yn ffurfio bwa prosceniwm di-bwysau, a’r agoriad yw 11.66m x 5.53m. Dyfnder y llwyfan heb y ffedog yw 10.64m. Dyfnder mwyaf y ffedog hanner cylch (lifft y gerddorfa) 3m. Uchder y Grid 14.4; Gofod yr Esgyll 4m(PS) 7m(OP). Gwrthbwysau Pwrcasu Sengl 34. Hyd y Bar 15.85m. Drws ar gyfer y ‘get in’ 2.7m x 3.5m, 1.6m yn uwch na lefel y ffordd, ond wedi hynny mae’r mynediad yn lefel ac yn mynd yn syth i’r prif lwyfan.
Ffurf lifft sydd i’r blaen llwyfan hanner cylch, a gellir ei ostwng i ffurfio pwll i gerddorfa ar gyfer 20 o gerddorion. Pren caled wedi’i orchuddio â dalennau o bren caled yw’r llwyfan. Mae llen ddiogelwch wedi’i gosod.
Lleoliad 2 :
Mae seddi Lleoliad 2 yn hyblyg, er yn cymryd cryn amser i’w altro. Cadeiriau polypropylen yw’r seddi, wedi’u trefnu ar falconi ac mewn ‘unedau eistedd’ ar risiau, sy’n cynnwys tair ‘mainc’ (bleacher) y gellir eu tynnu nôl, a phum uned y gellir eu ‘curo i lawr’ (knock down). Y trefniant arferol ar gyfer y seddi yw Ymwthiol (Thrust). Siâp octagon sydd i Lleoliad 2 gyda balconi’n mynd yr holl ford o gwmpas ar 1.98m. Lled hwyaf y llawr yw 11.89m. Lled llawr gwag a’r seddi ar ffurf cylch yw 6.4m. Drysau’r ‘get in’ 1.7m x 1.93m ar lefel y ffordd. Lleolir ystafell Reoli’r Goleuadau a’r Sain yn y cefn ac ar un ochr o’r Octagon, ac yn uwch na lefel y seddi. Rheolir y Goleuadau gan ETC Express. Rheolir y Sain gan Allen & Heath Mix Wizard.
- Cyfathrebu: Adnoddau Rheoli Llwyfan cyflawn, galwadau intercom Blaen Tŷ a’r Ystafelloedd Gwisgoedd, goleuadau ciw, ‘show relay’. Teledu Cylch Cyfyng i ddesg y cofweinydd a’r Blaen Tŷ.
- Ystafelloedd Gwisgo: 4 ar 2 lawr i 2, 12, 16, 17 o bobl. Cawodydd ar gael ar y llawr isaf.
- Pwll y Gerddorfa: 20 cerddor
- Stiwdio Recordio Sain
- Mae gweithdy/ffrâm baentio yng nghefn y prif lwyfan sy’n gallu ymestyn i led llawn y llwyfan gan gynnwys esgyll PS ac OP. Ffrâm baentio wedi’i gosod. (uchder y deunydd ar ei fwyaf tua 5 metr).
- Lleolir yr Ystafell Wisgoedd a’r londri ar y llawr cyntaf. Lleolir yr Ystafell Werdd, yr Ystafell Ymarfer a’r Stiwdio Ddawns ar y llawr isaf.
