Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Gwybodaeth & Chefnogaeth I Ysgrifennwyr

Ein Gweithgaredd Ni

Yn ogystal â gweithio gyda’n hawduron dan gomisiwn a darllen ac ymateb i sgriptiau digymell a dderbyniwn, mae’r Tîm Creadigol yn Sherman Cymru yn adnodd byw i awduron Cymraeg a Chymreig ac awduron eraill sy’n byw yng Nghymru, gan gynnig arweiniad a chyfleoedd bryd bynnag y mae hynny’n bosibl. Rydym ni’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a gydag awduron o bob oedran, cefndir a phrofiad.

Rhoi Cychwyn Arni....Oes Gennych Chi Rywbeth i’w Ddweud?

Rydym ni bob amser yn chwilio am bobl gyda syniadau cryf a gweledigaeth unigryw. Os ydych chi’n cael blas ar ’sgwennu ac am ddysgu mwy, neu os ydych chi wedi ’sgwennu mewn cyfryngau eraill ac am roi cynnig ar sgriptio ar gyfer y llwyfan, anfonwch enghraifft o’ch gwaith drwy’r post i’r Tîm Llenyddol, Sherman Cymru. Gallem ni fod o gymorth wrth ichi ddatblygu eich drama, neu wrth ichi addasu eich syniad yn ddrama ar gyfer y llwyfan!
Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed gennych.

Sgriptiau Digymell a’n Gwasanaeth Ddarllen

Darllenwch y pwyntiau isod cyn cyfleu eich gwaith, os gwelwch yn dda.
• Rydym ni’n gweithio’n bennaf gydag awduron Cymraeg, Cymreig ac awduron eraill sy’n byw yng Nghymru, ond rydym ni’n derbyn sgriptiau ac enghreifftiau o lenyddiaeth o weddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt
• Derbyniwn ddramâu gan awduron dibrofiad yn ogystal â dramodwyr profiadol.
• Os yn bosibl, gyrrwch eich gwaith heb ei rwymo, gan amgáu blaenddalen yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, teitl y gwaith a’r dyddiad y gyrrwyd y gwaith inni
• Darllenir pob sgript ddigymell a yrrir i Sherman Cymru gan ein tîm o ddarllenwyr a chynigir adborth ar bob un. Gall gymryd hyd at ddeufis i yrru ymateb i chi, felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda!
• Derbyniwn gopïau caled yn unig, felly peidiwch ag e-bostio sgriptiau inni os gwelwch yn dda ac amgaewch amlen â stamp arno, wedi’i gyfeirio, os dymunwch inni ddychwelyd eich gwaith.
• Pe byddem am fynd â’ch gwaith ymhellach, mae cyfle i weithio’n ddwys gyda’r Tîm Llenyddol, ar ddrafftiau dilynol, gweithdai a.y.b.
• Edrychwn ymlaen at ddarllen eich gwaith.

Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch efo ni Sian Summers neu Branwen Davies

Bas-data

Y mae nifer cynyddol o awduron gennym ar ein bâs-data. Â bod eich manylion gennym, gallwn eich hysbysu am ddigwyddiadau a chyfleoedd yng Nghymru, gweddill y D.U. a thu hwnt. Gallai’r rhain amrywio o ostyngiadau ar bris tocyn i gynyrchiadau Sherman Cymru (gweler Nosweithiau Awduron am fanylion) a chyrsiau Sherman Cymru, i gystadlaethau sgriptio, cyrsiau ffilmiau byrion a phreswylfeydd awduron. Os ydych chi'n awdur ac am inni ystyried  eich cynnwys ar ein bâs-data o awduron, e-bostiwch eich manylion cyswllt ac esiampl o’ch gwaith i Branwen Davies neu anfon y cwbl atom yn y post.

Logo