ISTA
Ers 4 blynedd mae’r Sherman wedi cynnal Symposiwm Rhaglenni ar y Celfyddydau Theatrig (TAPS) sy’n cael ei redeg gan ISTA, Cymdeithas Ryngwladol Ysgolion Theatr. Mae 100 o fyfyrwyr a’u hathrawon celfyddydau theatrig yn dod ynghyd, o bob cwr o’r byd, i gael profiad semenaidd theatrig ac addysgol. Mae’r symposiwm yn gweithredu fel man cychwyn iddynt gael archwilio eu profiadau personol o theatr ymhellach, yng nghyd-destun rhaglen y Fagloriaeth Ryngwladol ar gyfer astudiaethau theatr. Mae’r cwrs dwys hwn yn cynnig profiad o waith ensemble i’r myfyrwyr, sy’n caniatáu iddynt, nid yn unig i gael blas ar athroniaeth y rhaglen sydd yn y Fagloriaeth Ryngwladol newydd, ond yn rhoi iddynt hefyd yr arfau a’r strategaethau i reoli’r hyn maent yn ei ddarganfod a’r hyn maent yn ei ddysgu am theatr. Gall y profiad weithredu fel man cychwyn ac adnodd ar gyfer gwaith pellach yn eu hysgolion eu hunain; mae’n cynnig cyd-destun i gyfarfod a chyd-weithio â myfyrwyr eraill, a’r cyfle i weld amrywiaeth o berfformiadau theatrig. Cynigir Dosbarthiadau Meistr i’r myfyrwyr hefyd, fydd yn canolbwyntio ar adran benodol o theatr. Yng Nghaerdydd cynhelir y rhain gan gyfarwyddwyr, cynllunwyr ac ysgrifenwyr Sherman Cymru - ymarferwyr theatr brwdfrydig sy’n tywys y myfyrwyr hyn i’r byd o greu theatr sy’n aml yn amrwd ac yn fyd amhosibl i’w ddirnad. Mae TAPS Caerdydd yn un o uchafbwyntiau calendr ISTA, ac mae’r 400 neu fwy o fyfyrwyr rhyngwladol sydd wedi dod i’r Sherman dros y blynyddoedd wrth eu bodd yma, ac yn gwerthfawrogi’r profiad diwylliannol mae Cymru’n ei gynnig iddynt.

