Mynediad
Mae Sherman Cymru yn croesawu pawb, ac mae gennym wasanaethau amrywiol i sicrhau y bydd eich ymweliad mor bleserus â phosib. ‘Rydym yn croesawu adborth am unrhyw faterion neu bynciau sy’n ymwneud â mynediad.
Siaradwch gydag un o Gynorthwywyr y Dderbynfa neu’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900, a rhowch wybod i ni beth ‘rydych ei angen i fwynhau eich ymweliad, a gwnawn ein gorau i helpu.
Archebu Tocynnau
Mae hawl gan gydymaith y sawl sy’n dod mewn cadair olwyn i gael tocyn yn rhad ac am ddim. Byddwch mor garedig â dweud wrth un o Gynorthwywyr y Dderbynfa neu’r Swyddfa Docynnau bod angen tocyn ychwanegol arnoch pan fyddwch yn archebu.
Mae ein llyfryn tymor ar gael mewn print bras, Braille neu ar lafar. Gallwch ofyn am y fformat sydd orau gennych chi drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.
Gostyngiadau a Consesiwns
Myfyrwyr mewn addysg lawn amser, yr henoed, y rheiny sydd wedi eu cofrestru’n anabl, y rheiny sy’n hawlio budd-daliadau ac aelodau Equity yn gael gostyngiad ar bris tocynnau. Fel arfer, mae hyn yn golygu gostyngiad o £2 oddi ar y pris llawn.
Mae pobl ifanc dan 25 yn cael prynu tocynnau am hanner y pris ar gyfer mwyafrif perfformiadau Sherman Cymru, ond nid pob un.
Archebu ar gyfer grŵp: 10% pan fyddwch chi’n archebu 8 tocyn neu fwy
Archebu ar gyfer ysgol: Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900
Os hoffech chi fwy o wybodaeth ynglŷn â’n gostyngiadau, mae croeso i chi ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900
Mae gan Sherman Cymru ymagwedd hyblyg at brisiau, fel ein bod ni’n gallu cynnig tocynnau ar amrywiaeth eang o brisiau bob tro. Fe fydd union bris pob sedd yn y theatr yn amrywio ar gyfer pob perfformiad, ond fe fydd o leiaf 40 tocyn ar gael ar y pris isaf bob tro, ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o ostyngiadau.
I gael gwybodaeth am y prisiau ar gyfer pob perfformiad, edrychwch ar dudalennau’r wefan neu siaradwch ag un o’n Cynorthwywyr Tocynnau a’r Dderbynfa.
Parcio i ddeiliaid bathodyn glas
Mae yna bum gofod parcio ar gael i ddeiliaid bathodyn glas, o flaen yr adeilad. Caiff y rhain eu rheoli gan Gyngor Caerdydd a’r cyntaf i gyrraedd sy’n eu cael.
Cŵn tywys
Mae croeso i gŵn tywys a chŵn clywed yn yr adeilad. Pan fo hynny’n bosib, gallwn gynnig seddi ar ben y rhes mewn perfformiadau er mwyn hwyluso eich ymweliad. Byddwch mor garedig â dweud wrth y Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu.





