Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Newydddion Am Awduron

Awdur Preswyl

Rydym ni wrth ein bodd ein bod i fedru cyhoeddi mai Gary Owen fydd Awdur Preswyl cyntaf Sherman Cymru. Mae Gary yn awdur toreithiog a chynhyrfus a gwelir ffrwyth ei waith fel awdur, addasydd a datblygwr sgript yng nghynnyrch Sherman Cymru yn y flwyddyn sydd i ddod. Byddwn yn croesawu Gary i’r adeilad ym mis Ebrill ’09 ac rydym ni’n edrych ymlaen at ei gyfraniadau gwerthfawr ac amrywiol i fywyd creadigol y cwmni.