Awydd Abseilio O'r Sherman?
23 Tac 2009
Mae Sherman Cymru yn trefnu Abseilio Noddedig o ben tŵr brig y Sherman ar ddydd Iau 26 Tachwedd, beth am gymryd rhan?!? 
Bydd yr abseilio’n digwydd ar ddydd Iau 26 Tachwedd 10 y.b. - 3 y.p. dan gyfarwyddyd Clwb Mynydda Prifysgol Caerdydd.
Bydd pob cyfraniad yn mynd tuag at ail-ddatblygu’r theatr.
Y cyfan sydd raid i chi wneud yw:
- Bod dros 18 mlwydd oed
- Cyfranu £10 o leiaf i’r gronfa
- Trefnu bod amser penodol yn cael ei gadw i chi
Os hoffech gymryd rhan yn yr abseilio cysylltwch â Suzanne Carter
