Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Ali-ddatblygiad Sherman Cymru

29 Meh 2009

Mae Sherman Cymru yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn grant o £3.9 miliwn gan y Loteri Genedlaethol, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.  Bydd yr arian yn ein galluogi i gyflawni’r gwaith adnewyddu sy’n gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau fod adeilad y theatr yn cael ei drawsnewid yn llwyr.

scexternalcy
Argraffiadau'r Pensaer - Capita Architecture

Mae cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i  Sherman Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynrychioli  74% o gyfanswm cost yr ail-ddatblygu.  Bydd hyn yn cynnwys moderneiddio’r ardaloedd cyhoeddus, fydd felly’n gwella profiad y gynulleidfa, yn ogystal ag adnewyddu’r ardaloedd cefn llwyfan ac yn gwella’r amodau ar gyfer staff a chyfranogwyr. Meddai Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru:

“Dyma newyddion ardderchog, ‘rydym wrth ein bodd gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y gwaith adeiladu fydd yn bosib i ni ei gyflawni yn gwella’r cyfleusterau’n ddirfawr, yn codi ein proffil yn y ddinas, ac yn ein galluogi i fod yn fwy uchelgeisiol gyda’r cynyrchiadau ‘rydym yn eu creu a’r perfformiadau ‘rydym yn eu rhaglennu.”

Bydd gan yr adeilad ar ei newydd wedd seddi newydd yn y ddwy theatr, cyfleusterau cyhoeddus newydd, a bydd y cyntedd hefyd yn cael ei ddatblygu – bydd hyn yn cynnwys gwella’r mynediad i’r theatr. Bydd yr ardaloedd cefn llwyfan yn cael eu hail-ddatblygu er mwyn gwella’r ystafelloedd ymarfer a’r swyddfeydd, gan alluogi i safon y gwaith a gynhyrchir yno godi. Cynllunnir yr adeilad gan Jonathan Adams o Capita Architecture, fu  hefyd yn gyfrifol am gynllunio Canolfan Mileniwm Cymru. Dywedodd Cadeirydd Sherman Cymru, Emyr Jenkins:

"Bwriad ein cynlluniau ar gyfer yr ail-ddatblygu yw creu adnoddau teilwng ar gyfer yr unig theatr gynhyrchu ym mhrifddinas Cymru, ynghyd â'i chynulleidfa - adeilad y gallwn oll ymfalchïo ynddo"

balconycy
Argraffiadau'r Pensaer - Capita Architecture

Sherman Cymru yw unig theatr gynhyrchu De Cymru, ac mae’n cyflwyno nifer o gynyrchiadau newydd bob blwyddyn.  Y mwyaf nodedig oedd Deep Cut yn 2008 a enillodd sawl gwobr, yn ogystal â bod yn llwyddiant ysgubol yng Ng?yl Ymylol Caeredin yn 2008 pan werthwyd pob tocyn, cyn symud i theatr nodedig y Tricycle yn Llundain yn gynharach eleni. Mae Sherman Cymru hefyd yn cyflwyno cynyrchiadau Nadolig poblogaidd yn flynyddol.

Mae tîm Dysg ac Ymgysylltu Sherman Cymru wedi gweithio gyda bron i 7000 o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, drwy’r Theatr Ieuenctid ac Acting Out Caerdydd, sy’n galluogi i fyfyrwyr 14-16 mlwydd oed astudio ar gyfer tystysgrif BTEC yn y Celfyddydau Perfformio yn y theatr ei hun, a nifer o brosiectau eraill gyda phobl ifanc, ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid. 

Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae cyfraniad y Sherman i fywyd diwylliannol Cymru’n un hir ac wedi’i hen sefydlu. ‘Rydym wrth ein bodd gwneud y buddsoddiad ariannol arwyddocaol hwn yn nyfodol y theatr.  Mae Sherman Cymru eisoes yn un o gynhyrchwyr theatr pwysicaf y wlad.  Mae’n hanfodol fod yno’r cyfleusterau i gyd-fynd â hyn.”

Nod Sherman Cymru yw codi’r £1.5 miliwn ychwanegol sydd ei angen ar gyfer y cynllun o nifer o ffynonellau amrywiol, ac mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda nifer o arianwyr posib. Bydd ymgyrch gyhoeddus ar gyfer rhoddion unigol yn cael ei lansio ym mis Medi, ac mae gweithgareddau codi arian yn cynnwys aelodau o staff y Sherman yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd.

Bydd y drysau’n cau ar adeilad presennol y Sherman ym mis Ionawr 2010 ar gyfer y cyfnod adnewyddu, yn dilyn cynhyrchiad Nadolig y Sherman yn 2009, sef A Christmas Carol. Bydd Sherman Cymru yn symud i swyddfeydd dros dro yng Nghaerdydd ac yn parhau i gynhyrchu a theithio gwaith theatrig ledled y DU, a hefyd yn parhau â’r gwaith Dysg ac Ymgysylltu.

Mwy o Wybodaeth