Credit/Crunch
12 Rha 2008

Daeth staff Banc Barclays i’r ystafelloedd ymarfer yn theatr y Sherman yr wythnos hon er mwyn dysgu pobl ifanc sut i drin arian. Cynhaliwyd gweithdy drama arbennig wrth i’r bobl ifanc baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad nesaf fydd yn cael ei ysgrifennu gan Gary Owen.
Fel gwaith ymchwil ar gyfer eu cynhyrchiad nesaf, Credit/Crunch gan Gary Owen, cafodd aelodau menter Acting Out Caerdydd, Sherman Cymru weithdy gyda staff Barclays, er mwyn archwilio sgiliau rheoli arian pobl ifanc. Bu i staff Barclays, a chynrychiolwyr yr uned arian anghyfreithlon, drafod rheoli arian, a chynnig cyngor ymarferol ar sut y gall pobl ifanc ymdopi’n ariannol, a rhannu straeon go iawn am erchyllterau byw mewn dyled. Meddai Kathy Brown, Rheolwr Materion Cymunedol Barclays:
“Mae Barclays yn falch iawn o gael cefnogi prosiect Acting Out. ‘Rydym yn awyddus i helpu pobl ifanc i ddeall goblygiadau ariannol eu penderfyniadau, a’u galluogi i fod yn ddefnyddwyr hyderus a gwybodus, sy’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’u hawliau.”
Ar hyn o bryd mae myfyrwyr a mentoriaid Acting Out Caerdydd, oll yn 14 - 19 mlwydd oed, yn gweithio ar eu cynhyrchiad addysg gyfoed ar gyfer tymor yr haf, sef Credit/Crunch. Cefnogir y cynhyrchiad gan Barclays a Buddsoddiad CultureStep Arts & Business Cymru. Mae’r cynhyrchiad theatr Fforwm yn archwilio’r gwirioneddau a’r fytholeg sy’n bodoli ynghylch arian, a’r rhan mae arian yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc Cymru, a bydd yn cael ei ysgrifennu gan yr awdur o Gymro, Gary Owen, gyda chymorth y bobl ifanc fydd yn cymryd rhan.
Bydd y sioe yn teithio i ysgolion a chanolfannau cymunedol lleol, a bydd y cwmni wedyn yn arwain gweithdai hyfforddi gyda phobl ifanc eraill er mwyn trosglwyddo’r sgiliau fyddant wedi eu dysgu am arian a theatr. Meddai Mike Regan, 18 oed o Laneirwg, mentor Acting Out:
“Mae’n brofiad da iawn i ni fynd â’r hyn ‘rydym ni wedi’i ddysgu gan staff Barclays ac arwain gweithdai ein hunain, a gweithio gyda phobl ifanc eraill er mwyn trafod materion ariannol gyda nhw.”
Mae Acting Out Caerdydd yn Brosiect Celfyddydau Perfformio, prosiect sydd wedi ei wobrwyo, a gynhelir gan y Sherman mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Ysgolion Caerdydd, ble mae pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant am ddwy flynedd ym mhob agwedd o theatr er mwyn ennill tystysgrif BTEC yn y Celfyddydau Perfformio. Mae graddfa llwyddiant 100% gan y prosiect.
Perfformir Credit/Crunch yn y Sherman ym mis Ebrill, cyn teithio o amgylch ysgolion a chymunedau lleol, ble fydd cannoedd o bobl ifanc yn cyfleu eu syniadau nhw am faterion ariannol heddiw.





