Cynllun Beirniaid Ifainc Newydd
18 Hyd 2010
Ydych chi rhwng 16 a 25? Allech chi greu adolygiad anhepgor o ddrama mewn theatr neu berfformiad cerddorol?
Mae’r Cynllun Beirniaid Ifainc wedi’i fwriadu i ddatblygu ac arddangos lleisiau beirniadol pobl ifanc a’u hannog i feddwl yn feirniadol am y cynyrchiadau theatraidd neu gerddorol y maent wedi’u gweld.
I gymryd rhan, ffoniwch (01656) 642727 neu anfonwch neges e-bost i: arts@bridgend.gov.uk
Cewch fynychu gweithdai ac archwilio rôl y beirniad celfyddydol, gan feddwl am wahanol ffyrdd o ymateb i gynyrchiadau theatraidd a chelfyddyd fyw trwy ddefnyddio Facebook, Vimeo neu Twitter.
Trefnir gan Adran Datblygu’r Celfyddydau a Chymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda chymorth National Theatre Wales ac Academi.
Rhan o Gyfarwyddiaeth Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.





