Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Cychwyn Ar Y Gwaith O Ailddatblygu Sherman Cymru A Thri Ariannwr Pwysig Yn Ymuno

10 Tac 2010

Cwmni Adeiladu Dawnus o Abertawe'n cychwyn ar y gwaith o ailddatblygu Sherman Cymru, fydd yn costio £6 miliwn.

Mae'r gwaith trawsnewid ar yr unig adeilad cynhyrchu theatr yng Nghaerdydd wedi cychwyn er mwyn rhoi lleoliad diwylliannol gwbl addas i gynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac ymarferwyr yr unfed ganrif ar hugain.

Bydd gan adeilad Sherman Cymru ar ei newydd wedd – y bu disgwyl hir amdano - ffasâd gwbl newydd fydd yn dod yn adnabyddus fel un o adeiladau amlycaf y ddinas. Bydd yr ardaloedd blaen t? a chefn llwyfan yn cael eu trawsnewid, gosodir seddi newydd yn y ddau leoliad perfformio, ac adeiladir ystafell ymarfer newydd ar hen safle maes parcio'r staff. Bydd gwelliannau hanfodol hefyd yn cael eu gwneud i’r systemau awyru a gwresogi, ac i'r gwaith plymio.

Dywedodd Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru: 
“Bydd y gwaith adeiladu'n gwella'r cyfleusterau'n sylweddol, yn codi ein proffil yn y ddinas, ac yn ein galluogi i fod yn fwy uchelgeisiol yng nghyswllt y cynyrchiadau 'rydym yn eu creu a’r perfformiadau 'rydym yn eu rhaglennu.”

Mae'n hen bryd cyflwyno lleoliad cynhyrchu theatr i Gaerdydd sy'n adlewyrchu safon ac uchelgais y gwaith creadigol sy’n digwydd oddi mewn. Y syniad tu ôl i'r cynlluniau ailddatblygu yw creu adeilad fydd yn cyfoethogi profiad y cynulleidfaoedd a’r cyfranogwyr, a gwella'r amodau i ymarferwyr a staff.

Dywedodd Emyr Jenkins, Cadeirydd Sherman Cymru:
“Nod ein cynlluniau ailddatblygu yw rhoi lleoliad teilwng i unig theatr gynhyrchu Prifddinas Cymru, lleoliad y mae'r cwmni a'r gynulleidfa yn ei haeddu – ac yn rhywbeth allwn oll ymfalchïo ynddo.”

Dywedodd Russell Evans, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Dawnus: 
“'Rydym yn llawn cyffro wrth feddwl am foderneiddio'r theatr wych yma, ac y byddwn o help i greu lleoliad deniadol a gwirioneddol gynaliadwy y gall cymuned Caerdydd ei fwynhau am flynyddoedd eto.”

Yn 2009 rhoddwyd cyfanswm o £4.64 miliwn i Sherman Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda'r prif ddyfarniad yn dod ar ffurf Grant Loteri Cyfalaf. Mae hyn yn gadael diffyg o £1.36 miliwn sy'n rhaid i'r cwmni ei godi drwy'r ymgyrch godi arian. Hyd yn hyn mae'r cwmni wedi codi £535,000, diolch i gefnogaeth y sector gyhoeddus, rhoddion unigol, y sector gorfforaethol, ond yn bennaf diolch i ymddiriedolaethau a sefydliadau.

Cafwyd cefnogaeth sylweddol gan dri o sefydliadau amlycaf y DU; Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Foyle a Sefydliad Monument. Bydd y gefnogaeth yma'n hanfodol i lwyddiant yr ymgyrch, ond mae cryn ffordd eto i'w throedio. Am ragor o fanylion am ailddatblygu Sherman Cymru, a manylion ar sut y gallwch gefnogi’r ymgyrch ewch i www.shermancymru.co.uk/cyfalaf