Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Pobol Ifanc Yn Cyflwyno Sioe Am Reoli Arian

21 Ebr 2009

Bydd drama am bobl ifanc, ac am sut i reoli arian, drama a ysgrifennwyd ac a berfformir gan bobl ifanc, yn cael ei chyflwyno yn y Sherman, Caerdydd, ac mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol yn Ne Cymru yn ystod mis Ebrill eleni, gan roi cyfle i o leiaf 600 o bobl ifanc ei gweld.

Cyd-ysgrifennwyd Credit/Crunch gan aelodau Acting Out Caerdydd, Sherman Cymru a’r dramodydd Gary Owen, sydd wedi ei wobrwyo am ei waith. Mae’n sôn am eu profiadau wrth reoli arian. Bydd y bobl ifanc, sy’n 14-16 mlwydd oed, yn perfformio’r sioe yn y Sherman ar 23 - 24 Ebrill cyn teithio i ysgolion a chanolfannau cymunedol yng Nghaerdydd, a byddant yn cynnal gweithdai ar gyfer eu cyfoedion er mwyn trafod materion ariannol.

Mae dwy ddrama fer yn Credit/Crunch sy’n defnyddio techneg Theatr Fforwm - techneg ble gall y gynulleidfa ymyrryd â’r hyn sy’n digwydd a newid diwedd y stori. Dywedodd un o fyfyrwyr Acting Out, Rhys Molloy, 15, o Lanrhymni:

“When we do it for the audience, they get the chance to get on stage with us and act out their solutions to the situations in the play. I’m pretty scared about having to improvise on stage with members of the public, not knowing what they are going to do! But that also makes it exciting.”

Dywedodd Lucy Higgins, 19, o Drelái, sydd wedi graddio o Acting Out Caerdydd, ac erbyn hyn yn mentora grŵp o fyfyrwyr:

“We don’t get taught about money in school and it will give young people a better understanding for when they go out to work or college.”

Mae Acting Out Caerdydd yn Brosiect Celfyddydau Perfformio; prosiect sydd wedi ei wobrwyo. Fe’i cynhelir gan y Sherman mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Ysgolion Caerdydd, ble gall pobl ifanc o 14 - 16 mlwydd oed dderbyn hyfforddiant am ddwy flynedd ym mhob un o adrannau y theatr er mwyn ennill BTEC yn y Celfyddydau Perfformio. Mae cyfradd llwyddiant 100% i’r prosiect. Mae’r cynllun hefyd yn rhoi cyfle i raddedigion ddychwelyd i weithio fel mentoriaid. Ychwanegodd Rhys Molloy: 

“Before joining Acting Out I never thought of myself doing drama, but it’s a brilliant course and I’ve found that I am actually good at something! Credit/ Crunch has been my favourite project so far, because it’s in touch with my age group and it’s also about issues which affect adults too.”

Cefnogir y prosiect gan Barclays a Buddosddiad CultureStep Arts & Business Cymru. Meddai Kathy Brown, Rheolwr Materion Cymunedol Barclays:

“Barclays is delighted to support the Acting Out project. We want to help young people understand the financial implications of their choices and enable them to be confident and knowledgeable consumers, aware of their responsibilities and rights.”