Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Sherman Cymru Yn Cyflwyno Stori Fytholwyrdd I Blant Y Nadolig Hwn

28 Hyd 2011

Y Nadolig hyn bydd Sherman Cymru yn cyflwyno Y Coblynnod a’r Cryddion/ The Elves and the Shoemakers – stori hudolus i blant dan 7 oed a'u teuluoedd.

Stori yw Y Coblynnod a’r Cryddion / The Elves and the Shoemakers sy’n sôn am ddau Grydd - gŵr a gwraig, sy’n rhy hen ac yn rhy flinedig i wneud rhagor o esgidiau. ‘Does dim briwsionyn ar ôl yn y tŷ, dim pren i’w roi ar y tân, a dim arian i brynu anrhegion Nadolig i’w gilydd.

Yna, ar drothwy Noswyl y Nadolig mae dau o Goblynnod bach direidus yn taenu ychydig o hud er mwyn helpu’r ddau hen Grydd. Mae syniad gan y Coblynnod bach… mae un darn o ledr ar ôl i wneud un pâr arall o esgidiau…

Mae James Williams y Cyfarwyddwr wedi’i gyffroi wrth feddwl am weithio ar y sioe:

“Hon oedd un o fy hoff straeon pan o’n i’n fachgen. Yn aml iawn mae plant yn ofni’r hyn allai fod yn llechu yn y tywyllwch (‘roeddwn i yn bendant) ond yn y sioe yma, pan mae’r Cryddion yn mynd i’r gwely, mae rhywbeth rhyfeddol yn ymddangos o’r tywyllwch; dau Goblyn bach drwg a gwirion iawn sydd yno, sy’n cynnig help llaw ac yn taenu lot o hud Nadoligaidd.

“Mae yna gymaint o bethau hyfryd ynglŷn â’r ddrama hon. O’r eiliad daw’r plant i’r awditoriwm maent yn cael eu cyflwyno i fyd newydd hudolus, a’r wobr am ymddwyn yn fonheddig ac yn gwrtais yw dogn helaeth o lwc dda. Dau Byped anhygoel fydd yn cynrychioli’r Coblynnod, a bydd y gerddoriaeth hyfryd yn cael ei chwarae’n fyw.”

Mae gan Sherman Cymru draddodiad cadarn o ddarparu theatr safonol i blant ifanc iawn, y cyfan wedi’i lwyfannu mewn modd sy’n wledd i’r llygad. Mae gan y cynhyrchiad berfformiadau Saesneg (The Elves and the Shoemakers) a Chymraeg (Y Coblynnod a’r Cryddion).

Bydd Y Coblynnod a’r Cryddion / The Elves and the Shoemakers yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 13 - 31 Rhagfyr – Pris y tocynnau yw £6 a gellir archebu drwy ffonio 029 2063 6464 neu archebu ar y we -www.wmc.org.uk