Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Cynnig Dawns Arbennig Y Gwanwyn

07 Ion 2009

Y gwanwyn hwn mae Sherman yn croesawu nifer o gwmnïau dawns a theatr gorfforol ardderchog. Er mwyn i ni geisio sicrhau nad ydych chi’n colli allan ar yr holl ddawns ffantastig yn Sherman rydyn ni’n cynnig gostyngiad o 25% bant o’ch cyfanswm llawn wrth i chi archebu ar gyfer bob un o’r tri pherfformiad isod! Archebwch ar gyfer…

3 Men Running
Mae tri dawnsiwr o dri diwylliant gwahanol yn cael eu huno â’i gilydd yn dilyn un profiad cyffredin, sef marwolaeth diweddar eu tadau. Gyda Marc Rees.

Sylvain Emard Danse - Wave
Perfformiad egniol a thu hwnt o deimladwy, a berfformir gan bump o ddawnswragedd arbennig iawn.

Tanja Liedtke's Twelfth Floor
Cyfuniad cyfoethog o ddawns, theatr, symud a fideo.