Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Deep Cut Yn Ennill Dwy Wobr

14 Aws 2008

Mae drama newydd am ddigwyddiadau cywilyddus Barics Deepcut, gan Sherman Cymru, Caerdydd, wedi ennill dwy wobr fawreddog yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, ac mae pob un o’r perfformiadau yng Nghaeredin wedi eu gwerthu allan.

Cynhyrchwyd Deep Cut gan Sherman Cymru ac mae wedi derbyn gwobr ‘Fringe First’, sy’n cymeradwyo gwaith newydd yn yr Ŵyl, a gwobr ‘Herald Angel’ am gynhyrchiad rhagorol. Mae pob tocyn ar gyfer y perfformiadau o Deep Cut yn Theatr y Traverse wedi eu gwerthu, a derbyniodd y sioe glod mawr gan y beirniaid. Dywedodd Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru:

“Mae’r ymateb i Deep Cut wedi bod yn eithriadol. Dyma ddarn grymus a phwerus o theatr sy’n ymdrin ag agweddau pwysig o fywyd cyhoeddus drwy gyfrwng stori sy’n ddynol dros ben. Mae wedi bod yn anrhydedd i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r cynhyrchiad.”

Ysgrifenwyd Deep Cut gan Philip Ralph, gan ddefnyddio deunydd gwreiddiol o lygad y ffynnon, a thystiolaethau personol pwerus gan y rheiny oedd agosaf at y Preifat Cheryl James, un o’r pedwar milwr ifanc a saethwyd yn farw mewn amgylchiadau anesboniadwy rhwng 1995 a 2002.

Er bod Adolygiad Blake, adolygiad annibynnol am y marwolaethau, wedi dod i’r casgliad fod Cheryl, mae’n debyg, wedi lladd ei hun, mae ei theulu’n parhau i frwydro am ymchwiliad cyhoeddus llawn er mwyn cael atebion gan y bobl oedd yn gyfrifol am ofal eu merch. Dywedodd yr awdur Philip Ralph:

“’Rydym ni yma oherwydd bod pedwar o bobl ifanc wedi marw ac nad oes gan y llywodraeth unrhyw ddiddordeb mewn darganfod pam. ‘Rydym ni’n cynrychioli’r bobl hynny a’u teuluoedd, ac am adrodd eu stori. Diolch i’r gwobrau hyn, a chefnogaeth y wasg, gobeithio gallwn ledaenu’r stori i lawer iawn mwy o bobl.”

Mae Deep Cut i’w gweld yn Theatr y Traverse, fel rhan o Ŵyl Ymylol Caeredin, tan 24 Awst, cyn teithio i Glwyd Theatr Cymru ar 9 – 13 Medi, ac yna’n dychwelyd i’r Sherman, Caerdydd ar 16 – 27 Medi.