Theatr Ieuenctid Sherman Cymru Yn Cyflwyno Dwy Ddrama Wefreiddiol
23 Chw 2009
Yn dilyn eu traddodiad o greu cynyrchiadau theatrig grymus bydd Theatr Ieuenctid Sherman Cymru yn cyflwyno dwy ddrama sy’n ymdrin â phynciau sydd yn berthnasol ac o ddiddordeb i’r bobl ifanc eu hunain.
Seiliwyd y ddrama gyntaf, The Watching, ar stori wir Sara Jacobs, y ferch o Orllewin Cymru fu’n ymprydio am gyhyd, ac a fu farw yn 1869. Honnodd Sara nad oedd wedi bwyta ers iddi droi’n ddeuddeg oed, er ei bod yn ymddangos yn ferch iach, gwbl normal. Wedi mwynhau cyfnod hir o gyhoeddusrwydd, pan dderbyniodd hi a’i theulu nifer o roddion ac anrhegion gan y rheini oedd yn credu ei bod hi’n wyrthiol, penderfynodd y doctoriaid ymyrryd. Trefnwyd cyfnod o “wylio”, pan gafodd Sara ei harolygu’n gyson, er mwyn penderfynu a oedd ei honiadau am ymprydio yn wir. Yn fuan wedyn aeth Sara’n wan iawn, a gan fod ei rhieni wedi gwrthod ei gorfodi i fwyta, bu farw o newyn.
Dyfeisiwyd The Watching yn wreiddiol gan Theatr Gwent gan ddefnyddio cofnodion meddygol o’r cyfnod, ac erbyn hyn mae’r ddrama wedi ei haddasu ar gyfer cast mwy gyda Louise Osborn yn cyfarwyddo.
Ail ddrama’r noson fydd Cult - A Study, ac yn hon ceir golwg ddiddorol iawn ar beth yw hanfod ‘cwlt’. Gan ddefnyddio dawns, cerddoriaeth a’r cyfryngau newydd, mae’r darn yn edrych ar yr hyn sy’n wahanol rhwng cwlt a chrefydd. Mae hefyd yn archwilio’r awydd o berthyn i gwlt, a pherygl y dylanwad posib gall cwlt arbennig ei gael ar unigolyn. Mae’r bobl ifanc, sydd oll rhwng 13 - 18 mlwydd oed, wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr James Williams i greu darn dyfeisiedig gan ddefnyddio’u gwaith ymchwil a’u syniadau eu hunain. Mae’r perfformiad yn canolbwyntio ar gwlt y blaidd-ddyn o Awstralia, a chwlt crefyddol enwog ‘Heaven’s Gate’.
Ar hyn o bryd mae Theatr Ieuenctid Sherman Cymru yn cynnig cyfle i 100 o bobl ifanc greu theatr, i ehangu eu sgiliau perfformio ac i ddatblygu eu hyder. Mae’r Theatr Ieuenctid yn cyflwyno tri chynhyrchiad safonol y flwyddyn. Mae rhai o gynyrchiadau’r gorffennol yn cynnwys Kontakt, The Gutterfly Tribe a Gospel.
Gwybodaeth bellach
