Paratowch Ar Gyfer Egin
04 Ebr 2008
O’r 11 - 20 Ebrill eleni mae Sherman Cymru’n cyflwyno Egin, gwyl newydd sbon sy’n dathlu’r dalent a’r ‘sgwennu Cymreig gorau ar gyfer y theatr, gan lu o awduron ac artistiaid hen a newydd.
Bydd Egin yn cael ei gynnal dros ddau benwythnos ac yn cynnwys nifer o gyflwyniadau byr o theatr gan y dalent gorau o Gymru. Meddai Sian Summers, Cyd-lynydd yr Wyl a Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru:
“Y syniad tu ôl yr wyl yw y bydd nifer o bethau’n digwydd yn y theatr yn ystod y ddau benwythnos fel y gall pawb ddod draw a phicio i mewn ac allan fel y maent yn dymuno. Ffrwydrad byr, bachog o theatr fydd pob darn, a ‘ru’n ohonynt yn para’n hirach na hanner awr. Bydd yma rywbeth i bawb.”
Mae awduron ac artistiaid wedi bod yn gweithio ar brosiectau ar gyfer Egin ers dechrau’r flwyddyn er mwyn cynhyrchu darnau newydd o theatr. Maent wedi eu creu drwy amryfal ffyrdd, gan gynnwys “seibiant ‘sgwennu” yn y theatr yn ystod un penwythnos, a thrwy gyd-weithio â cherddorion fel y band roc Gin Drinker, a’r artist rap o Gymru Steffan Cravos.
Yn ogystal â rhoi cyfle i ysgrifenwyr weddol newydd gael profiad o weld eu gwaith yn cael ei berfformio, bydd Egin hefyd yn cynnwys gwaith gan awduron profiadol fel Gary Owen ac Alan Osbourne. Cynhelir nifer o sesiynau trafod hefyd yn ystod yr wyl, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd fynegi barn am y theatr gyfoes ac i drafod y pynciau llosg sy’n ymwneud â’r theatr heddiw.
Bydd rownd derfynol ScriptSlam hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wyl ar ddydd Mawrth 15 Ebrill. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol gan y Sherman erbyn hyn, ac eleni bydd pum awdur buddugol o gystadleuaeth fisol ScriptSlam yn cystadlu i ennill ScriptSlam 2008. Ddydd Iau 17 Ebrill bydd Dirty Protest yn talu ymweliad â ni - y digwyddiad cwlt ar gyfer ysgrifennu newydd. Dyma eu perfformiad cyntaf mewn lleoliad theatr, wedi nosweithiau hynod o lwyddiannus ym mar Milgi.
Am fwy wybodaeth ac amserlen lawn
