Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


The Elixir Project

11 Chw 2009

Y mis hwn bydd ieuenctid Acting Out Caerdydd Sherman Cymru yn cael eu blas cyntaf ar fyd yr opera mewn cydweithrediad arbennig â chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ar The Elixir Project.

Mae Acting Out Caerdydd, cwmni o bobl ifanc rhwng 14-16 mlwydd oed sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith, wedi cael cyfle i weithio’n glos â WNO Max Opera Cenedlaethol Cymru ar ffurf o gelfyddyd sydd, hyd yn hyn, wedi bod yn ddieithr iddynt. Fodd bynnag, yn dilyn y fraint o gael sbec y tu ôl i’r llenni yn OCC, a gyda chryn dipyn o ddychymyg, mae Acting Out Caerdydd wedi rhoi tro cyfoes i The Elixir of Love, gan drawsblannu’r stori o fyd yr opera clasurol a leolir ar y Rifiera yn yr Eidal, i’r consol gemau mwyaf diweddar.

Meddai Jason Camilleri, Cyd-lynydd Acting Out:

“It’s been fantastic to see the creative team from Welsh National Opera and the young people on the course engage so strongly with each other to create the production. The group have been taken out of their comfort zone and placed into a world of movement and song, but with a great script and a catalogue of very catchy numbers, I think it’s going to be a very unique piece of theatre!”

Mae Acting Out Caerdydd yn rhan o’r Cynllun Rhwydwaith Llwybrau Dysgu 14 – 19 Caerdydd, ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 14-16 mlwydd oed i fynychu gweithdai wythnosol yn y Sherman er mwyn astudio tuag at gymhwyster BTEC yn y Celfyddydau Perfformio, y tu allan i amgylchedd ysgol draddodiadol.

Mae WNO MAX yn cynhyrchu rhaglen o weithgaredd y tu hwnt i’r prif lwyfan, rhaglen sydd eisoes wedi ei gwobrwyo. Mae’n ceisio gwneud y gorau o adnoddau’r cwmni gan greu a chyflwyno amrediad eithriadol o opera, sy’n cynnwys amrywiaeth o gyfranogion, artistiaid a chynulleidfaoedd.

Gwybodaeth ychwanegol ac Amseroedd y Perfformiadau