Taith Gerdded Noddedig 20 Milltir Sherman Cymru
16 Mai 2011
Bydd staff a chefnogwyr Sherman Cymru yn gwisgo’u esgidiau cerdded unwaith eto er mwyn codi arian i Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru ac yn cerdded am 6 awr o amgylch Caerdydd a Dyffryn Morgannwg.
Mae Sherman Cymru wedi trefnu taith gerdded noddedig o 20 milltir, gan gychwyn ym Mhontcanna yng nghanol Caerdydd cyn mynd yn eu blaenau i Barc Gwledig Cosmeston. Wedi toriad byr bydd y cerddwyr wedyn yn dilyn y ffordd ar hyd yr arfordir o Sully, Penarth a Bae Caerdydd, cyn cychwyn yn ôl am Gaerdydd a thua’r terfyn.
Hyd yma mae mwy na 16 aelod o staff a chefnogwyr wedi cofrestru, ac mae croeso i chi wneud hefyd… os oes gennych awydd cerdded gyda ni i godi arian ar gyfer Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru, cofrestrwch eich diddordeb drwy gysylltu â Suzanne Carter ar 029 2064 6970 neu drwy yrru e-bost at suzanne@shermancymru.co.uk. Gallwch sefydlu eich tudalen we bersonol yma drwy justgiving.
Neu, os hoffech noddi ein staff a’n cefnogwyr gallwch wneud hynny’n berffaith ddiogel drwy ddefnyddio ein tudalen ‘justgiving’.





