Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Staff Sherman Cymru'n Cerdded Marathon 26 Milltir Ar Gyfer

21 Meh 2010

Dydd Sadwrn 19 o Fehefin cerddodd staff a chefnogwyr Sherman Cymru farathon o 26 o filltiroedd fel rhan o’r ymgyrch godi arian ar gyfer ailddatblygu’r adeilad.

Yn dilyn llwyddiant eu hymdrechion blaenorol i godi arian bu i wyth o gyn-aelodau a staff presennol Sherman Cymru (ac un ci!) wisgo’u hesgidiau cerdded unwaith eto i godi arian ar gyfer ailddatblygu’r theatr, drwy gymryd rhan mewn taith gerdded o 12 awr ar hyd Taith Taf o Ferthyr Tydfil i Fae Caerdydd.

Gweithgareddau Codi Arian y Staff
Staff: Mike Gowing, Marina Newth, Elin Partridge, Branwen Davies, Bethan Way, Suzanne Carter, Ceri Mill, Margaret Jones & Jenny Boyatt

‘Roedd cefnogwyr Sherman Cymru hefyd yno i annog y cerddwyr ar hyd y ffordd ac i roi croeso arwrol iddynt ym Mae Caerdydd ar ddiwedd y daith. Mike Gowing oedd un o’r cerddwyr, Rheolwr Cyllid 58 mlwydd oed a ymddeolodd o’r cwmni ym mis Rhagfyr 2009, ond a benderfynodd ailymuno â cherddwyr Sherman Cymru ar gyfer y daith. Dywedodd Mike Gowing: 

“Tan i mi ymddeol ym mis Rhagfyr 2009 ‘roeddwn wedi gweithio i’r Sherman am ryw 8 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw cefais adegau bendigedig, a chwrddais â rhai pobl anhygoel. Mae’r cyfle gen i ‘nawr i ad-dalu’r profiad drwy godi arian ar gyfer y theatr newydd. Rhedais hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref, ond ‘roedd y daith gerdded hon llawer caletach, er nad oeddem yn symud mor gyflym. ‘Roedd yn ymdrech wych gan y tîm cyfan, ond dylid diolch yn arbennig i Suzanne Carter a Margaret Jones am fynd cam neu ddau ymhellach na phawb drwy drefnu’r digwyddiad.”

Hyd yn hyn mae staff Sherman Cymru wedi codi mwy na £4000 yn dilyn mentrau codi arian staff yn unig, sydd wedi cynnwys teithiau beic noddedig, rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ac abseil noddedig o ben adeilad y Sherman ganol gaeaf llynedd. Dywedodd Emma Goad, Pennaeth Datblygu Sherman Cymru:
 
“Mae staff Sherman Cymru’n llawn brwdfrydedd am y cwmni a’r adeilad, ac mae hyn yn amlwg yn yr holl amser ac ymdrech maent wedi ei roi tuag at godi arian i ailddatblygu’r theatr. ‘Rydym yn falch iawn o’r gefnogaeth ‘rydym wedi ei chael yn ystod y misoedd diwethaf, nid yn unig gan y staff, ond gan gynulleidfaoedd a chefnogwyr Sherman Cymru. Er ein bod wedi codi dros 80% o’r arian sydd ei angen i gwblhau’r gwaith ailddatblygu, mae arnom angen codi bron i £1.3 miliwn o hyd.” 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi gefnogi gwaith ailddatblygu Sherman Cymru cysylltwch â Suzanne Carter ar 029 2064 6970 neu drwy e-bost ar suzanne@shermancymru.co.uk