Sherman Cymru Yn Cyhoeddi 'Gair Ar Led' -Rhaglen Gweithdy Cenedlaethol Ar Ysgrifennu Drama
26 Med 2011
Yn dilyn llwyddiant gweithdai Sherman Cymru ar ysgrifennu drama a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen ‘nawr yn cael ei chyflwyno’n genedlaethol. Bydd tiwtoriaid sy’n brofiadol yn y maes ysgrifennu drama yn cynnal gweithdai wythnosol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, mewn lleoliadau ledled Cymru ar gyfer awduron newydd ac awduron sy’n datblygu, o bob oed.
Yn ystod y sesiynau a gynhelir gyda’r nos, gan ddefnyddio cyfuniad o ymarferion ysgrifennu ac astudio testunau, bydd y cyfranogwyr yn dysgu am bum elfen hanfodol cyfansoddi drama - stori, cymeriadau, deialog, strwythur ac ail-ysgrifennu. Unwaith bydd y sesiynau gyda’r nos wedi dod i ben bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn ‘dan glo’, ble fyddant yn cwrdd mewn lleoliad penodol i ddechrau ysgrifennu drama, ac yn cael arweiniad ymarferol gan y tiwtoriaid a chan aelod o dîm Sherman Cymru. Yn dilyn y sesiwn dan glo bydd y cyfranogwyr yn cael chwe wythnos i gwblhau eu dramâu, yna’n derbyn adborth manwl ar eu gwaith gan dîm Sherman Cymru. Bydd rhai o’r dramâu wedyn yn cael eu dewis i gael eu cyflwyno mewn digwyddiad darlleniad-a-rihyrsiwyd yn y lleoliad hwnnw, pan fydd yr awduron hynny’n cael cyfle i weithio gyda chast o actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol.
Meddai Siân Summers, Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru:
“Mae ein cyrsiau sgwennu wedi profi'n llwyddiannus iawn yn y cwpl o flynyddoedd diwethaf ac mi rydan ni wrth ein boddau bod gennym ni'r cyfle'n awr i'w hestyn ledled Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gydweithio gyda chwmniau theatr a chanolfannau i gynnig datblygiad i ddramodwyr newydd a rhai sy'n prifio dros Gymru gyfan.”
Mae gwaith rhai o’r cyfranogwyr sydd eisoes wedi mynychu cyrsiau ysgrifennu Sherman Cymru wedi cael ei gynhyrchu fel rhan o fenter Sherman Cymru RAW / AMRWD. Un ohonynt yw Brad Birch; cyflwynwyd ei ddrama Light Arrested Between the Curtain and the Glass gan Sherman Cymru yn gynharach eleni, ac ers hynny mae un o'i ddramâu wedi ei chynhyrchu gan y Royal Court. Meddai ef:
“My time on the New Writing Course was extremely important for my progression as a writer. It still is… Having begun with Sherman Cymru I find myself in a strong position, not only as being a much more experienced writer but also as being a Welsh writer. Sherman Cymru instils a faith in Welsh theatre, not provincial but national, which is imperative for theatre in this country.”
Os hoffech ragor o wybodaeth, neu os hoffech wneud cais i gymryd rhan yn ‘Gair ar Led’, yna cysylltwch â Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru, Siân Summers ar sian.summers@shermancymru.co.uk





