Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Gweithdy RSC Ar Gyfer Oedrannau 15-23

08 Hyd 2009

Cyfle bendigedig i gymeryd rhan mewn gweithdy rhad ac am ddim gyda'r dramodydd gwobrywyol Roy Williams

Dydd Iau 19 Tachwedd, 5.30 -7.00yh

• Wyt ti rhwng 15 a 23?
• Wyt ti erioed wedi ystyried ysgrifennu’n
greadigol?
• Wyt ti’n hoffi mynd i’r theatr?

Os mai ti yw hwn hwyrach y byddai gennyt ddiddordeb mewn cyfle unigryw i gyfarfod a chael dy ysgogi gan y dramodydd Roy Williams mewn gweithdy di-dâl yn Sherman yn ystod fis Tachwedd.

Days of Significance

Nid oes angen profiad blaenorol o gwbl. Y cwbl yr wyt ti ei angen yw beiro, papur a thipyn o eiddgarwch! Mae dramâu Roy Williams yn angerddol, yn gignoeth ac yn berthnasol i fywyd bob dydd. Ysgrifennodd am bêl-droed (Sing Yer Heart Out For The Lads), diwylliant gangiau (Fallout), beichiogi dan-oed(Baby Girl), a charchardai (Category B) ac yn aml mae’n defnyddio iaith gyfoes a dinesig y stryd.

Daw ei ddrama ddiweddaraf, Days of Significance, a gynhyrchir gan y Royal Shakespeare Company i Sherman rhwng 17 a 21 o Dachwedd. Dywedodd un adolygiad amdani: “un o’r portreadau mwyaf cythryblus a llawn perswâd o’r Loegr Ifanc a welais erioed”.

Gall bawb Dan 25 archebu tocynnau ar gyfer y sioe yma am £5 yn unig ond paid oedi gan fod yna nifer cyfyngedig o docynnau ar gael!

Os ydych chi am fwy o wybodaeth am y gweithdy neu â diddordeb ymuno yng Ngr?p `Sgwennwyr Ifanc Sherman Cymru, cysylltwch â Siân Summers

I archebu lle ar y gweithdy, cysylltwch â Heather Jones (Dyddiad Cau Ceisiadau yw Tachwedd 1)

Am wybodaeth am Archebu i Grwpiau a threfnu eich ymweliad, cysylltwch â Haleh Tozer