Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Mark Watson - 27 Mawrth

28 Ion 2009

Mae Mark Watson wedi ychwanegu perfformiad arall yn Sherman, yn sgil ymateb ysgubol, fel rhan o’i daith newydd All The Thoughts I’ve Had Since I Was Born. Mae tocynnau ar gyfer nos Iau 26 Mawrth bron wedi gwerthu allan, felly bydd Mark hefyd yn perfformio ar nos Wener 27 Mawrth.

Yn ymddangos yn rheolaidd ar Mock the Week, mae Mark yn un o gomediwyr mwyaf poblogaidd Prydain. Yn enwog am ei sioeau ‘marathon’ sydd yn para 24, 33 ac, unwaith, 36 awr, mae steil ‘hyperactive’ ond ymddiddanol a chymeriad hoffus Mark Watson yn gwneud i bob aelod o’r gynulleidfa teimlo bod ganddynt ffrind gorau newydd (sydd weithiau yn arwain at sylw annymunol).

Mwy o wybodaeth am y sioe & Archebu Tocynnau